Dyma'r tro cyntaf i'r twba twym ymddangos mewn gêm rygbi yng Nghymru, wrth i'r Scarlets geisio denu cynulleidfa ehangach. Mae'r rhanbarth yn cynnig tocynnau am £10 i fyfyrwyr hefyd; mae staff y Scarlets wedi ymweld â cholegau ac phrifysgolion yn ystod yr wythnos i geisio ledu'r neges. I ychwanegu at yr awyrgylch o barti, fe fydd reidiau ffair tu allan i'r stadiwm hefyd.
Ymunodd Miss Sir Gaerfyrddin, Natasha Suliman, gyda rhai o chwaraewyr y Scarlets, Rhys Priestland, Josh Turnbull a Dominic Day i lawnsio'r ymgyrch. Dywedodd Natasha, sydd yn gefnogwr brwd o'r Scarlets: "Rwy'n credu ei fod yn syniad gwych, a ddylai fod yn lot fawr o hwyl. Fe fydd yr enillwyr wrth eu boddau, beth all fod yn well! "
Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets, Rupert Moon: "Rydym yn gobeithio denu cefnogwyr a chynulleidfa newydd y tymor hwn yn ogystal ac ail gysylltu gyda'n cefnogwyr selog - bod yn rhan o'r teulu sy'n bwysig.
"Mae'n bwysig i ni drio pethau newydd. Rydym yn gwybod fod y twba twym wedi gweithio'n dda iawn mewn chwaraeon eraill megis rygbi'r gynghrair a chriced felly pam ddim rygbi! Mae'n rhywbeth gwahanol, ac mae'n rhoi elfen chwareus i'r noson - gobeithio y bydd pobl yn gwenu wrth ei weld!
"Rydym wedi lawnsio'r gystadleuaeth i ennill lle yn y twba twym ar ein tudalen ar Facebook yr wythnos hon ac mae yna lot o ddiddordeb.."
Ewch i wefan y Scarlets ar Facebook am wybodaeth pellach am y gystadleuaeth - Scarlets Official Facebook Page. I gystadlu anfonwch ebost gyda'ch enw, cyfeiriad, rhif cyswllt a dyddiad geni i hottub@scarlets.co.uk. Mae'n rhaid i chi fod yn 18+ ac mae termau ac amodau'n berthnasol.
Diolch i Westy'r Diplomat am adael i ni ddefnyddio'u cyfleusterau.











