Rydym yn edrych ymlaen ar y gêm fawr nos Wener wrth i'r Scarlets groesawu Ulster i Barc y Scarlets ac wrth i rygbi ddychwelyd i ddifyrrwch Cynghrair Magners ar ôl adloniant rygbi rhyngwladol.
Mae'r Scarlets yn paratoi ar gyfer dathliad Celtaidd ym Mhentref y Cefnogwyr ac fe fydd cyfle i chi fel cefnogwyr flasu rhai o gynnyrch gorau'r rhanbarth.
Yn ogystal a hyn, fe fydd cyfle i chi fwynhau holl weithgareddau arferol y Pentref; inflatables y Scarlets, peintio wynebau am ddim, mochyn rhost, bar oedolion, gardd gwrw i'r teulu, ymddangosiad gan rhai o garfan y Scarlets a llawer mwy.
Fe fydd y Scarlets yn cyhoeddi ac yn croesawu enillwyr cystadleuaeth y rhanbarth i'r cae yn ystod hanner amser hefyd i dderbyn tystysgrifau a'u gwobrau.
Dewch draw i Barc y Scarlets i ymuno yn yr hwyl ac i ddathlu popeth sy'n dda am y rhanbarth.
Scarlets v Ulster, Nos Wener 5ed Mawrth, CG 7.05pm ym Mharc y Scarlets.











