Yn dilyn llawer o bwysau wrth flaenwyr y Scarlets daeth y pwyntiau agoriadol wedi hanner awr wrth i'r canolwraig Naomi Thomas ddarganfod gwendid yn llinell amddiffynol y Gweilch ac fe droswyd yn llwyddiannus gan y maswr.
Y Scarlets arweiniodd y ffordd trwy gydol yr hanner cyntaf gyda'r mwyafrif o'r rygbi yn nhir y Scarlets.
Munudau cyn yr hanner fe lwyddodd y Scarlets i ychwanegu mwy o bwysau i'r GWeilchw rth i'r canolwraig groesi am ail gais y tim Scarlets ac ychwanegwyd dau bwynt arall gyda throsiad llwyddiannus. Scarlets 14 Gweilch 10.
Roedd yr ail hanner yn wahanol iawn wrth i'r Gweilch ddominyddu'r chwarae a chadw'r Scarlets yn eu tir eu hunain.
Daeth pwyntiau cynta'r ymwelwyr wrth i'r maswr ddarllen tafliad yn dda a rhyng-gipiwyd y pas gan rhedeg o hanner ffordd!
Ni lwyddodd y Scarlets i fanteisio o'u cyfleoedd a sicrhau pwyntiau ond sicrhawyd buddugoliaeth o 14-10 i'r Scarlets.











