Roedd Stephen Jones yn falch iawn gyda'r penderfyniad a dywedodd ei fod yn hwb mawr iddo ef yn bersonol wrth sicrhau ymestyniad o ddwy flynedd i'w gytundeb.
Dywedodd: "Rwyf yn hynod o falch o arwyddo'r cytundeb newydd yma, fel yr wyf wedi datgan ers tro, rwyf wedi bod yn awyddus iawn i barhau gyda fy ngyrfa yn y rhanbarth. Gallwn edrych ymlaen i'r dyfodol mewn ffordd positif.
"Mae yna grwp arbennig o chwaraewyr ifanc a thalentog yma ac fe allwn adeiladu at y dyfodol. Fe fydd y chwaraewyr ifanc yn elwa o'r profiad o chwarae mewn gemau mawr tymor hwn.
"Rwyf yn gredwr mawr yn ethos y Scarlets o ddatblygu talent ifanc o'r lleol - mae'n dda i'r Scarlets ac mae'n beth positif i rygbi yng Nghymru.
"Fel chwaraewr sydd wedi bod yn rhan o'r rhanbarth ers dros degawd, mae'n bwysig iawn i mi bod y tim yn datblygu a mawr obeithiaf y gallaf fod o gymorth gyda fy mhrofiad wrth gynorthwyo i ddatblygu'r garfan ifanc i'r dyfodol.
"Mae'r garfan yn gryf - mae yna deimlad gwych ymhlith y tim ac mae yna egni ymysg y chwaraewyr ifanc. Mae'r garfan a'r tim yn symud i'r cyfeiriad cywir ac er ein bod wedi bod o dan bwysau tymor yma mae yna lot o bethau positif yn digwydd, rwy'n gobeithio y gallaf fod o ddefnydd wrth ymestyn y profiadau hynny dros y dwy flynedd."
Dywedodd y Prif Hyfforddwr Nigel Davies ei fod yn bwysig iawn bod y rhanbarth wedi llwyddo i gadw Stephen Jones.
Dywedodd Davies: "Rwyf yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i ddod i'r cytundeb yma gyda Steve. Mae e'n rhan holl bwysig o'r dyfodol, mae wedi bod yn rhan hanfodol o'r tim ers cyfnod ac ef yw un o'n chwaraewyr mwyaf profiadol. Mae e'n Scarlet i'r bon, mae e'n credu'n gryf yn ein egwyddorion ac fe fydd yn ddylanwad mawr ar y garfan wrth symud ymlaen.
"Gyda charfan ifanc, mae'n bwysig ein bod yn cadw chwaraewyr h?n sydd a lot o brofiad allweddol a dylanwad ar ein tim."
Mae'r newyddion yn dod cyn gêm allweddol y Scarlets yn erbyn Gleision Caerdydd ym Mharc y Scarlets dydd Sadwrn yn y Cynghrair Magners (cic gyntaf 6.30pm).
Wedi chwarae i'r Scarlets ers dros degawd 17 pwynt yn unig sydd angen ar Jones i symud i'r brig fel prif sgoriwr pwyntiau'r Scarlets gan basio cyfanswm Andy Hill o 2596.
Ganwyd Jones, 32, yn Aberystwyth, ac mae'n byw ar hyn o bryd yn Sir Gâr. Ymunodd a'r Scarlets ym 1996 cyn symud i Ffrainc at Clermont Auvergne yn 2003/04. Dychwelodd i'r Scarlets yn 2006. Mae wedi chwarae 277 o ymddangosiadau dros Lanelli a'r Scarlets.
Roedd yn rhan o'r tim a gafodd lwyddiant yn Cwpan Heineken yn 2007 gan gyrraedd rownd cyn derfynol y gystadleuaeth.
Chwaraeodd Jones ei gêm rhyngwladol cyntaf ym 1998 yn erbyn De Affrica ac ef yw'r ail sgoriwr uchaf i Gymru gyda 794 o bwyntiau ac 88 cap rhyngwladol.
Jones sgoriodd y mwyaf o bwyntiau ym mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2010.
Mae wedi bod ar ddwy daith gyda'r Llewod (2005 & 2009), ef oedd y trydydd chwaraewr i groesi 500 o bwyntiau yn y Cwpan Heineken. Arweiniodd Cymru D21 i fuddugoliaeth Gamp Lawn ac roedd yn gapten Cymru D18.











