Dywedodd Paul Sergeant: "Ers colli nos Sadwrn, fe glywais lawer gan gefnogwyr ac fe fyddwn yn ystyried yr holl faterion a godwyd gan y cefnogwyr, fel yr ydym wedi gwneud trwy'r tymor, ar ac oddi ar y cae.
"Fy mlaenorieth i yw sicrhau na fydd y Scarlets yn datod gyda ond dwy gêm yn weddill y tymor hwn. Rwy'n gwybod yn iawn fod pob cefnogwr yn teimlo'r boen a'r siom ar hyn o bryd a chredwch chi fi rwy'n rhannu'r boen hwnnw.
"Ond nid ydym yn bwriadu dod a'r holl beth i ben, mae'r chwaraewyr, y staff hyfforddi a phawb yn angerddol am y Scarlets.
"Os oes erioed wedi bod amser i ddangos eich lliw fel Scarlets - nawr yw'r amser i wneud hynny.
"Roeddem yn falch o gyhoeddi ein bod wedi arwyddo Stephen Jones am ddwy flynedd arall ac mae'n dangos y bwriad o ran ochr fusnes y clwb. Mae yna lot o waith yn digwydd tu ôl y llenni i gynorthwyo gyda'r gwaith o adeiladu a datblygu ein busnes oddi ar y cae.
"Roedd yn wych i weld torf mor fawr yn erbyn y Gleision nos Sadwrn gyda dros 10,100 o bobl yn bresennol. Mae'n rheswm da i fod yn optimistaidd wrth edrych i'r dyfodol ac rwy'n annog ein cefnogwyr i gefnogi ethos y rhanbarth.
"Fy her i bob Scarlet yw i edrych i'r dyfodol ac i gefnogi'r tim dros y pythefnos nesa'. Mae angen ein cefnogaeth ar y chwaraewyr i orffen y tymor gyda dwy gêm gartre' ac yna i ddefnyddio'r cyfle i'n cyfarfod wyneb yn wyneb yn y fforymau sydd ar y gweill gyda CRYS 16 yng nghanol mis Mai."
Mae Prif Weithredwr y Scarlets wedi cyhoeddi y bydd y Scarlets yn cynnal dwy fforwm, mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth cefnogwyr y rhanbarth (Crys 16) - gydag un yn benodol i drafod rygbi - y llall i drafod busnes y Scarlets, gyda noson unigryw i'r ddwy fforwm. Fe fydd yn gyfle i gefnogwyr holi eu cwestiynau i'r timau h?n ym Mharc y Scarlets. Fe fydd Fforwm Rygbi'r Scarlets ar nos Fawrth 11 Mai (7pm) a'r Fforwm Fusnes ar nos Iau 13 Mai (7pm).
Cyhoeddir gwybodaeth bellach am y nosweithiau ar www.scarlets.co.uk yn yr wythnosau nesa'.











