Dyma'r partneriaeth cynta' o'u math i UWIC ac mae'n ddechrau llwybr newydd a chyffrous i chwaraewyr rygbi a fydd yn parhau gyda'i astudiaethau yn y Brifysgol yn ogystal a datblygu sgiliau rygbi mewn awyrgylch proffesiynol.
Fe fydd hefyd yn rhoi'r cyfle i Scarlets y dyfodol i dderbyn y gorau o ran addysg a chwaraeon - yn union fel wnaeth cyn fyfyrwyr UWIC Dominic Day, Ken Owens a Lee Williams sydd wedi manteisio o'r cyfleoedd dros y blynyddoedd diweddar.
Mae gan UWIC rhai o'r cyfleusterau hyfforddi chwaraeon gorau yn y DU. Fe fydd chwaraewyr Academi'r Scarlets yn cyfnewid i Glwb Rygbi UWIC lle fyddant yn dilyn cyrsiau addysgiadol yn ogystal a rhaglen hyfforddi a chryfhau a chwarae dros Glwb Rygbi UWIC. Mae URC yn gefnogol o'r cynllun.
Dywedodd Gareth Jenkins, Pennaeth Datblygiad Rygbi a Recriwtio gyda'r Scarlets, bod y partneriaeth yn gam anferth ymlaen mewn datblygiad chwaraewyr y Scarlets i'r dyfodol ac yn allweddol wrth ystyried ethos y rhanbarth o ran datblygu talent ifanc lleol.
Dywedodd: "Rydym yn hynod o falch o'r bartneriaeth yma gyda Chlwb Rygbi UWIC a fydd yn rhoi'r cyfeloedd gorau posib i chwaraewyr yr academi i ddatblygu eu sgiliau rygbi ac astudio ar yr un pryd.
"Fe fydd UWIC yn gweithio'n agos iawn gyda ni i sicrhau bod y chwaraewyr yn cael eu monitro'n gywir a'u bod yn llwyddo i gyfuno'r rygbi a'r datblygiad academaidd.
"Mae rhaglen rhagoriaeth rygbi UWIC yn rhoi'r cyfle i chwaraewyr ddeall pwysau'r byd chwaraeon proffesiynol. Maent yn profi datblygiad technegol, rhaglenni cryfder a chyflyru, adborth yn ogystal a chyngor deietegol a chefnogaeth.
"Mae hwn yn ddatblygiad hynod bositif i'r ddau sefydliad ac yn gam positif ymlaen yn rygbi Cymru ac yn natblygiad talent lleol."
Dywedodd Mike Wall, Prif Weithredwr Clwb Rygbi UWIC: "Nod y Brifysgol yw i gyrraedd rhagoriaeth yn y byd academaidd, chwaraeon a phroffesiynol. Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda'r Scarlets ar y bartneriaeth yma ac mae'n dangos awydd y Scarlets i rhoi'r cyfleoedd gorau i'w chwaraewyr.
"Mae pwysau enfawr ar chwaraewyr rygbi yn y byd modern wrth iddynt ddatblygu gyrfa proffesiynol; ein nod ni yw i gefnogi a'i hannog fel myfyrwyr a chwaraewyr ar ac oddi ar y cae.
"Nifer bach o'r chwaraewyr hynny sy'n cyrraedd y brig yn y byd chwaraeon heddiw, ac mae'r rheini sydd yn cyrraedd y brig yn gorfod gweithio'n galed iawn am flynyddoedd wedyn. Mae'r brifysgol yn rhoi'r cyfle gorau i'r chwaraewyr ifanc i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau wrth chwarae rygbi mewn awyrgylch broffesiynol hefyd.
Mae gan Glwb Rygbi UWIC bedwar tim o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Rygbi Chris Davey ac maent wedi blasu llwyddiant tymor hwn.
Mae XV cynta'n chwarae yn grwp Uwch Gynghrair A Prifysgolion Cymru. Maent wedi cael lleyddiant ysgubol y tymor hwn ac wedi cyrraedd rownd terfynol y gystadleuaeth yn erbyn cewri'r byd chwaraeon Loughborough yn Twickenham wythnos nesaf. (Mercher 21ain Ebrill).











