Er bod Williams, y chwaraewr profiadol 34 mlwydd oed, yn cymryd amser i orffwys dros yr haf, fe fydd yn cadw llygad barcud ar garfan Cymru Gatland ac yn enwedig y blaenasgellwr newydd, McCusker a all fod yn seren y dyfodol yn ôl Williams.
"Mae Rob wedi cael tymor arbennig i'r Scarlets, er nad yw'r rhanbarth wedi cael tymor mor bositif, ond mae e wedi bod yn un o'r chwaraewyr gorau," meddai Williams.
"Does dim dwywaith ei fod yn dalent arbennig ac rwyf wedi ei wynebu ar sawl achlysur.
"Mae e'n gystadleuwr o fri ac mae ei allu i chwarae yn safle chwech neu saith yn fonws i unrhyw dim y mae'n rhan ohoni.
"Efallai mai amser byr y gaiff Rob ar y cae prynhawn Sadwrn ond fe fydd e'n elwa wrth weld y safon ac fe all ddefnyddio hwnnw er mwyn datblygu i'r dyfodol.
Mae Rob McCusker wedi bod gyda'r Scarlets am chwech tymor gan ddatblygu trwy system yr Academi. Agorodd y drws iddo ennill ei gyfle wedi anaf i Simon Easterby yn gynharach yn y tymor.
Mae wedi chwarae yn gyson i'r Scarlets ers mis Ionawr yng nghystadleuaeth Cynghrair Magners a Chwpan LV= ac wedi denu sylw'r hyfforddwr cenedlaethol, Warren Gatland.
Tim Cymru i wynebu De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm, Sadwrn 5ed Mehefin, cic gyntaf 2.30pm
15 Lee Byrne, 14 Leigh Halfpenny, 13 James Hook, 12 Jamie Roberts, 11 Tom Prydie, 10 Stephen Jones, 9 Michael Phillips, 1 Paul James, 2 Matthew Rees, 3 Adam Jones, 4 Bradley Davies, 5 Deiniol Jones, 6 Jonathan Thomas, 7 Sam Warburton, 8 Ryan Jones(capt)
Eilyddion: 16 Huw Bennett, 17 John Yapp, 18 Alun Wyn Jones, 19 Rob McCusker, 20 Richie Rees, 21 Dan Biggar, 22 Andrew Bishop











