Fe fydd yna ddigonedd o gyfleoedd i chi brynu nwyddau arbennig y Scarlets dros yr haf o stondin nwyddau'n Scarlets a fydd yn ymweld â 'Steddfod yr Urdd, y Sioe Frenhinol a llawer llawer mwy.
Beth am ymuno a hwyl yr Adran Gymunedol; cymerwch rhan mewn sesiwn sgiliau, ewch ar yr 'inflatables', ymunwch a Chlwb Cochyn neu dewch draw am sgwrs i weld pa gyfleoedd neu weithgareddau bydd yn eich hardal chi yn y dyfodol agos?
Fe fydd carfan y Scarlets yn ymuno a'r aelodau staff yn ystod yr haf hefyd ac fe fydd bob un ohonynt yn gobeithio cyfarfod a chynifer o gefnogwyr brwd y Scarlets a phosib, ym mhob cwr o Gymru.
Os hoffech ddod i weld y Scarlets, brynu eitem newydd ar gyfer eich cwpwrdd dillad neu cymryd tro art y 'bungee run', dewch i'n gweld yn un o'r digwyddiadau isod:
31ain Mai - 5ed Mehefin: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Ciliau Aeron, Ceredigion
Sadwrn 12fed Mehefin: Sioe Aberystwyth
Sadwrn 12fed Mehefin: 10fed Twrnament Rygbi 'Golden Oldies' Ewrop, Caernarfon
Sadwrn 19eg Mehefin: Party on the Pitch, Tycroes
Sad 19eg / Sul 20fed Mehefin: Gwyl Cefn Gwlad Cymru, Gelli Aur, Llandeilo
Sadwrn 26ain Mehefin: Diwrnod Agored y 'Signal Regiment', Penfro
Sadwrn 3ydd Gorffennaf: Carnifal Porth Tywyn
Sadwrn 10fed Gorffennaf: Gwyl Rygbi Breudeth, Sir Benfro
Sadwrn 10fed Gorffennaf: Twrnament Rygbi 7 bob ochr Penybanc, Rhydaman
Llun 19eg / Iau 22ain Gorffennaf: Sioe Frenhinol Cymru
Llun 26ain / Gwener 30ain Gorffennaf: Gwersylloedd Haf ym Mharc y Scarlets
Sad 31ain Gorff / Sad 7fed Awst: Eisteddfod Genedlaethol, Glyn Ebwy
Sadwrn 7fed Awst: Carnifal Doc Penfro
Maw 17eg / Iau 19eg Awst: Sioe Sir Benfro
Fe fyddwn yn rhyddhau mwy o wybodaeth am argaeledd y chwaraewyr ac ati cyn y digwyddiadau unigol on dos hoffech dderbyn wybodaeth pellach am unrhyw un o'r digwyddiadau uchod cysylltwch a'r Scarlets ar 01554 783900.











