Dywedodd Phil Davies, Hyfforddwr Cymru D20: "Rydym ni gyd yn edrych ymlaen i chwarae yn y bencampwriaeth a wynebu rhai o dimau gorau'r byd. Dyma'r math o her sydd angen arnom er mwyn sicrhau ein datblygiad ni fel hyfforddwyr a datblygiad y chwaraewyr.
"Mae llawer o waith caled wedi ei wneud yn barod ac mae'n rhaid i ni brofi ein hunain yn awr a chwarae rygbi da. Fe fydd yn brofiad arbennig i'r chwaraewyr ac fe fydd yn rhaid iddynt ddangos eu sgiliau a'u gallu i fod yn gystadleuol.
"Ein gwaith ni yw i ddatblygu chwaraewyr trwy'r system i'w paratoi ar gyfan y llwyfan rhyngwladol llawn ond mae'n rhaid hefyd i ni sicrhau chwaraewyr o safon i'r rhanbarthau ac i'r Uwch Gynghrair. Fe fydd yr Uwch Gynghrair llawer yn gryfach yn dilyn y profiadau yma ac fe fydd hwn yn beth da i rygbi Cymru yn y pen draw.
"Hwn fydd cystadleuaeth dan 20 olaf i nifer o'r chwaraewyr ond fe fydd nifer o'r chwaraewyr hynny wedi chwarae yn erbyn Lloegr a Ffrainc, Awstralia a Seland Newydd yn y ddwy dymor diwehtaf ac mae hynny'n ddatblygiad ac yn brofiad anhygoel iddynt.
"Mae 14 o'r 26 sydd yn y garfan wedi chwarae ar lefel rhanbarthol, mae Tavis Knoyle sy'n chwarae gyda'r Scarlets, yn enghraifft arbennig o'r safon sydd ar gael i ni. Fe fydd e'n teithio i Seland Newydd gyda'r tim h?n dros yr haf, mae hynny'n destament i'r Scarlets ac i'r system rhyngwladol. Mae Tavis yn chwaraewr arbennig i'w hyfforddi ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo."
Carfan Cymru Dan 20 ar gyfer Pencampwriaeth Ieuenctid IRB y Byd (Yr Ariannin, Mehefin 5 - 21):
Blaenwyr: Dan Watchurst (capt, Academi'r Dreigiau / Bedwas), Will Taylor (Academi'r Gweilch / Bonymaen), Joe Rees (Tonmawr), Rhodri Jones (Academi'r Scarlets / Llanymddyfri), Rhys Williams (Academi'r Gleision / Pontypridd), Ieuan Davies (Crwydriaid Morgannwg), James King (Academi'r Gweilch / Aberafan), Joel Galley (Academi'r Scarlets / Llanelli), Lloyd Peers (Academi'r Gleision / Pen-y-bont), James Thomas (Academi'r Dreigiau / Glyn Ebwy), Josh Navidi (is-gapten, Academi'r Gleision / Crwydriaid Morgannwg), Rhys Jenkins (Academi'r Dreigiau / Glyn Ebwy), Toby Faletau (Academi'r Dreigiau / Cross Keys), Morgan Allen (Pontypwl)
Cefnwyr: Rhys Downes (is-gapten, Academi'r Gleision / Pontypridd), Gareth Davies (Academi'r Scarlets / Llanelli), Matthew Jarvis (Gweilch / Aberafan), Steven Shingler (Llanelli / Llangennech), Ashley Beck (Gweilch / Aberafan), Scott Williams (Academi'r Scarlets / Llanelli), Owen Williams (Academi'r Gleision / Caerdydd), Ben John (Academi'r Gweilch / Aberafan), Adam Hughes (Academi'r Dreigiau / Casnewydd), James Loxton (Academi'r Gleision / Cardiff), Kristian Phillips (Academi'r Gweilch / Castell Nedd), Dan Fish (Academi'r Gleision / Crwydriaid Morgannwg).











