Bu'n rhaid i Gymru weithio'n galed iawn i sicrhau'r fuddugoliaeth yn rownd agoriadol Pencampwriaeth IRB y Byd, gyda chais Ashley Beck deng munud cyn y chwiban olaf yn cadarnhau'r fuddugoliaeth yn rownd gyntaf Grwp A yn Club Atletico Estudiantes, Paraná ddydd Sadwrn.
Llwyddodd Samoa i sgori dwy gais gyda Chymru'n sgori un ac fe all y canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn petai Patrick Fa'apale heb fethu gyda tri gôl gosb a dwy drosiad yn yr hanner cyntaf a petai Karl Maleilegaoi heb fethu gyda gôl gosb yn yr ail hanner.
I'r gwrthwyneb roedd maswr Cymru, Matthew Jarvis ar ei orau ac fe lwyddodd gyda chwech cic yn olynol cyn methu gyda gôl gosb ar 84 munud pan enillwyd y gêm.
Aeth Cymru ar y blaen gyda 6 pwynt i 0 cyn i'r wythwr dderbyn carden felen. Tra ei fod e'n y gell gosb fe lwyddodd Samoa i sgori'r cais agoriadol trwy'r asgellwr Lole Tualaulelei.
Gyda Chymru ar y blaen o 9-5 llwyddodd prop Samoa Joe Sililoto i groesi am ail gais y tim cyn hanner amser ac roedd cyn fewnwr Casnewydd ac hyfforddwr Samoa Ofisa Tonu'u yn hapus wrth fynd i'r stafell newid gyda'i dim ar y blaen o 10-9.
Gyda 30 munud yn unig yn weddill ar y cloc roedd Samoa ar y blaen o 13-12. Daeth gôl gosb arall i Jarvis cyn i Beck sgori ei gais gan ymestyn ei sgor.
Fe fydd Cymru yn wynebu Fiji yn yr un lleoliad ddydd Mercher cyn wynebu Seland Newydd ar Fehefin 13; bydd Phil Davies yn mawr obeithio y gall Jarvis gadw'r safon yn y gemau nesaf wedi iddo sicrhau 17 pwynt i Gymru yn erbyn Samoa.
Cymru Dan 20
15 Dan Fish, 14 Kristian Phillips, 13 Owen Williams, 12 Ashley Beck, 11 Adam Hughes, 10 Matthew Jarvis, 9 Rhys Downes, 1 Dan Watchurst (capten), 2 Rhys Williams, 3 Rhodri Jones, 4 Lloyd Peters, 5 James Thomas, 6 James King, 7 Rhys Jenkins, 8 Toby Faletau
EILYDDION Daeth Gareth Davies i'r cae ar gyfer Downes wedi 52 munud a Scott Williams yn lle Hughes ar 42 munud.











