Cafodd McCusker ei gynnwys ar y fainc ar gyfer yr ornest yn erbyn De Affrica wed ii wythwr y Gleision Andy Powell dynnu yn ôl oherwydd anaf i'w goes.
Dywedodd: "Rwyf wedi cael cyfle arbennig gyda'r Scarlets, cefais gyfle i chwarae lot o rygbi yn ail hanner y tymor ac mae wedi bod yn arbennig i dderbyn fy nghap rhyngwladol cyntaf.
"Roeddwn yn bles iawn i ennill fy nghap cyntaf yng Nghymru ac roedd yn foment arbennig iawn i fi a fy nheulu gyda gymaint o bobol yn bresennol.
"Mae wedi bod yn wych i fod yn rhan o'r tim dros yr wythnosau diwethaf, yn enwedig yn dilyn siom y llynedd, bod yn rhan o'r system ac yna cael fy ngadael ar ôl ar y funud olaf.
"Fe fuodd o gymorth i fi yn ystod y tymor diwethaf i wthio fy hun ac i chi'n awyddus iawn i gael blas o'r awyrgylch rhyngwladol wedi cael y cyfle y llynedd.
Dywedodd McCusker fod ei brofiad gyda tim Saith Bob Ochr Cymru wedi bod o gymorth wrth iddo ddatblygu ei sgiliau. Dywedodd: "Cefais gyfle i chwarae ar lefel uwch nag oeddwn wedi chwarae gynt, mae'n gêm llawer yn gyflymach ac mae'n rhaid i chi fod yn atebol am eich gwaith amddiffynol."
Dywedodd McCusker fod y profiad o fod yn rhan o garfan Cymru a fydd yn teithio i Seland Newydd gyda'i gyd chwaraewyr Stephen Jones, Matthew Rees, Ken Owens, Tavis Knoyle a Jon Davies yn un a fydd yn edrych ymlaen ato.
Dywedodd: "Mae safle'r blaenasgellwr wedi bod yn un o safon ar hyd y blynyddoedd i Seloand Newydd ac rwy'n edrych ymlaen i'r profiad o chwarae'n erbyn rhai o chwaraewyr gorau'r byd.
Wrth son am y rhanbarth, dywedodd bod y Scarlets wedi dysgu lot yn ystod y tymor diwethaf a bod yna ddigonedd i edrych ymlaen ato: "Cafwyd ambell gêm arbennig yn y Cwpan Heineken ac fe ddangosom bet hi ni'n gallu ei wneud. Yn anffodus nid oeddem yn ddigon cyson ond mae'n rhaid i ni weithio galed i wneud yn siwr ein bod yn gwella ar hynny tymor nesaf."
Rob McCUSKER (SCARLETS)
Dyddiad geni: 12.10.85 Taldra: 1.95m / 6'4" Pwysau: 15st 11lbs / 100kgs
Record rhyngwladol: 1 cap











