Yn eu plith y mae rhai o sêr presennol Cymru Dan 20, y canolwr Scott Williams a'r mewnwr Gareth Davies.
Mae'r cytundebau datblygu wedi eu harwyddo gyda'r canlynol:
• Scott Williams (canolwr), 19, o Gastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin. Manylion: Y mae wedi bod yn aelod o Academi'r Scarlets ers yn bymtheg oed, mae'n astudio Gwyddorau Chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr ar hyn o bryd ac mae'n rhan o garfan Cymru Dan 20 ar hyn o bryd. Enwebwyd Williams yn ddiweddar ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn Cynghrair y Principality yn dilyn perfformiadau cryf fel canolwr i Lanelli, ac fe welwyd ef fel un o berfformwyr gorau Cymru yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20. Sgoriodd pedwar cais i Lanelli ac enillodd teitl Seren y Gêm ym muddugoliaeth Llanelli yn y Cwpan SWALEC. Enwyd Williams ar y fainc gyda thim cynta'r Scarlets yn ystod y tymor.
• Gareth Davies (mewnwr), o Gastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, 19 oed, ac mae'n astudio yng Ngholeg Sir Gâr. Mae wedi ennill capiau rhyngwladol gyda Chymru Dan 18 a 20 ac mae'n aelod o Academi'r Scarlets. Chwaraeodd 22 o gemau i Glwb Rygbi Llanelli y tymor hwn ac fe sgoriodd pump cais. Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros y Scarlets yn erbyn y Dreigiau ar y 31 o Ragfyr 2009.
• George North (asgellwr) o Sir Fôn, 18 oed. Cymro Cymraeg sydd wedi chwarae fel canolwr i Gymru Dan 18. Mae wedi chwarae dros Lanymddyfri y tymor hwn ac fe enwebodd y Scarlets e far gyfer ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Llanymddyfri. Mae wedi chwarae dros Llangefni, Pwllheli a ieuenctid Rhyl. Mae'n 6" 4 ac yn 17st ac mae wedi sgori cais dros Gymru Dan 18 yn ogystal a Gogledd Cymru D16.
• Nic Reynolds (canolwr) o Lanelli, 21 oed. Manylion: Astudio gradd yng Ngwyddorau Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe. Chwaraeodd gyda Chymru Dan 20 y llynedd. <ae e'n rhan o Academi'r Scarlets ac fe chwaraeodd 34 gêm gyda Chlwb Rygbi Llanelli yn nhymor 2009/2010. Enillodd wobr Chwaraewr y Mis Cynghrair y Principality ym mis Ebrill 2010 ac roedd yn rhan o'r tim buddugol yng Nghwpan SWALEC.
• Nick Cudd: (reng ôl), o'r Tymbl, 21 oed. Manylion: Fe gwblhaodd ei radd yng Nghyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Abertawe yr haf hwn. Mae wedi chwarae yn y gorffennol gyda Chymru D19 a D20. Mae'n aelod o Academi'r Scarlets ac fe chwaraeodd 16 o gemau i Lanelli yn nhymor 2009/2010. Mae'r Scarlets wedi ei gefnogi wedi iddo ddychwelyd ym mis Rhagfyr yn dilyn llawdriniaeth ddwbwl i'w ysgwydd yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae'r cytundebau dwy flynedd yn golygu y bydd y chwaraewyr yn hyfforddi yn llawn amser gyda charfan proffesiynol Nigel Davies yn ogystal a dilyn astudiaethau addysgol neu galwedigaethol.
Yn ogystal, mae Dan Newton, cefnwr Llanelli, y prop Simon Gardiner o Hwlffordd, yr wythwr Ben Morgan a'r bachwr Rhys Lawrence yn dechrau ar eu hail flwyddyn yn eu cytundebau datblygu gyda'r Scarlets.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae gennym bob rheswm i fod yn optimistaidd ac yn frwdfrydig am y talent sydd yn datblygu ar hyn o bryd ymhlith chwaraewyr ein academi. Maent yn chwaraewyr brwdfrydig, awyddus ac ymroddgar sydd ym ddysgu o'r bobl o'u hamgylch.
"Mae datblygu chwaraewyr ifanc fel hyn, a'u cynnwys yn y garfan h?n cyn gynted a phosib yn rhan o'n ethos yn y rhanbarth o ddatblygu talent ifanc lleol. Fe fydd yn fanteisiol i'r Scarlets yn yr hir dymor. Rydym wedi gweld llwyddiant y math yma o sylw yn y gorffennol.
"Mae hwn yn beth da i ni fel rhanbarth ond mae hefyd yn beth positif i'r chwaraewyr ifanc wrth iddynt hwy ddysgu o'r profiad o gael hyfforddi gyda chwaraewyr profiadol iawn. Os ydynt am sicrhau gyrfa fel chwaraewyr rygbi proffesiynol fe fydd yn rhaid iddynt ddeall y pwysau oddi ar y cae hefyd a does dim lle i feithrin y fath wybodaeth a dealltwriaeth."
Dywedodd Gareth Jenkins, Pennaeth Recriwtio a Datblygu'r Scarlets: "Mae gan y grwp yma o ddynion ifanc y potensial i fod yn chwaraewyr da iawn i'r rhanbarth ac mae'n allweddol ein bod ni'n sicrhau lle iddynt yn y rhanbarth wrth edrych i'r dyfodol. Mae ganddynt gyfle euraidd i ddatblygu i'r lefel nesaf wrth iddynt hyfforddi'n llawn amser gyda'r garfan h?n a sefydlu eu hunain fel chwaraewyr proffesiynol.
"Fe fydd bob un ohonynt yn astudio ar gyfer cymhwysterau addysgol neu galwedigaethol hefyd, yn ogystal a datblygu yn y byd rygbi. Fe fyddant hefyd yn cefnogi rhaglen gymunedol brysur y Scarlets - fe fydd hyn yn cynnwys ymweliadau i ysgolion a hyfforddi plant."











