Scarlets yng ngrwp 5 ar gyfer Cwpan Heineken 2010/2011
8 Mehefin 2010, 11:39 am
Gan Nerys Jones
Penderfynwyd grwpiau Cwpan Heineken ar gyfer tymor nesaf bore yma, Mawrth 8fed Mehefin, yng Nghaerdydd.
Cynhaliwyd y seremoni yng Nghaerdydd, lleoliad rownd terfynol Cwpan Heineken 2011, er mwyn penderfynu'r chwech grwp o bedwar clwb a fydd yn chwarae yn nhwrnament gorau rygbi Ewrop yn y 16 tymor.
Fe fydd y Scarlets yn wynebu Teigrod Caerlyr, Perpignan a Treviso yng ngrwp 5.