Mae'r grwp y mae'r Scarlets ynddi yn cynnig digon o adloniant a gemau o safon a fydd yn difyrru cefnogwyr y Scarlets a chefnogwyr oddi cartref.
Fe fydd dyddiadau a gemau Cwpan Heineken tymor nesaf yn cael eu cyhoeddi ym gan ERC ym mis Gorffennaf.
Mae gan y Teigrod draddodiad a hanes o fri yn Ewrop; maent wedi cyrraedd y rownd derfynol dwy waith yn y pedwar tymor diwethaf ac roeddynt yn bencampwyr yn 2001 a 2002. Mae'r Scarlets wedi cyfarfod y Teigrod ar bump achlysur yng Nghwpan Heineken gan gynnwys y rownd cyn derfynol yn 2002 a 2007.
Roedd Perpignan ar frig cynghrair Ffrainc yn 2009/10 ond trechwyd hwy yn y rownd terfynol gan Clermont Auvergne. Mae'r Scarlets wedi wynebu hwy tair gwaith yn flaenorol yn y Cwpan yn rownd y grwpiau 2001/02 ac yn rownd y cwarteri ar Barc y Strade yn 2003.
Mae Benetton Treviso wedi llwyddo i gyrraedd brig pencampwriaeth yr Eidal ar saith achlysur yn y degawd diwethaf a chadw teitl y 'Super 10' eleni wedi sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Viadana ym mis Mai. Llwyddodd yr Eidlawyr i sicrhau buddugoliaeth o 9-8 dros Perpignan yn y rownd gyntaf yn Ewrop y llynedd.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies: "Rydym yn gymharol hapus gyda'r canlyniad, mae yna gemau mawr yn y grwp i ni yn enwedig yn erbyn Caerlyr sydd wedi bod yn elyn mawr i ni yn Ewrop yn y gorffennol.
"Mae Caerlyr wedi profi eu gwerth yn Ewrop, maent yn un o'r tri neu bedwar tim sydd wedi perfformio'n dda yn gyson yn y gystadleuaeth ac fe fydd y her a hanner i ni. Fe fydd y chwaraewyr yn edrych ymlaen i chwarae chwaraewyr o safon ac fe fydd yn brofiad i'n chwaraewyr hefyd.
"Rydym yn ymwybodol o gryfder Perpignan, mae'n anodd iawn i sicrau buddugoliaeth yn eu herbyn oddi cartref ond eto rydym yn edrych ymlaen i'r her.
"Y tim sydd yn fwy newydd ac yn fwy anhysbys i ni yw Benetton Treviso, ond fe gewn ni gyfle i ddod i wybod mwy amdanynt wrth iddynt ymuno a'r Cynghrair Magners y tymor nesaf. Yr hy sydd angen i ni fod yn wyliadwrus ohono yw'r ffaith eu bod yn dim sy'n gwario lot o arian ar chwaraewyr ac fe fydd ganddynt chwaraewyr o safon yn y garfan.
"Ar y cyfan mae'n amrywiaeth da o dimau ac yn dilyn canlyniadau llynedd a chyrraedd yr ail safle yn ein grwp fe fyddwn yn ffocysu ar geisio cyrraedd y lefel yno eto. Mae gennym lot o brofiad yn ein carfan ac fe fydd y profiad hwnnw'n holl bwysig wrth deithio i Ffrainc ac wrth wynebu'r Teigrod, ond mae nifer o'r chwaraewyr ifanc wedi ennill profiad anhygoel y llynedd ac fe fydd y garfan yna'n llawer fwy profiadol y tymor nesaf.
"Mae yna dimau profiadol yn y gystadleuaeth ac mae'n anodd iawn i ddyfalu canlyniadau'r gemau. Fe fydd yn rhaid i ni wthio'n hunain a chodi'r safon tymor nesaf."
Dywedodd Paul Sergeant, Prif Weithredwr y Scarlets: "Mae hwn yn gyfres o gemau diddorol i ni yng Nghwpan Heineken. Mae gennym ddau glwb mawr i'w croesawu a'u difyrru yma ym Mharc y Scarlets ac mae yna dripiau oddi cartref hyfryd i'n cefnogwyr hefyd.
"Mae traddodiadau yn erbyn y clybiau yma yn Ewrop yn ychwanegu ychydig o fywyd a drama i'r gystadleuaeth ac rwy'n siwr y bydd y cystadleuwyr yn gefnogol iawn. I ni wedi profi ein bod ni'n gallu cystadlu'n erbyn y timau gorau, ac felly fe fydd yn grwp ddifyr iawn.
"Ni ddylem diystyrru Benetton Treviso chwaith, maent yn ymuno a Chynghrair Magners y tymor nesaf ac fe fyddan nhw'n cynnig cystadleuaeth ddiddorol i ni hefyd.
"Fe fydd y gemau a'r dyddiadau'n cael eu cyhoeddi yng nghanol mis Gorffenaf ond hoffwn gael gêm fawr adref yn gyntaf er mwyn cael dechrau arbennig i'r ymgyrch."
GRWPIAU CWPAN HEINEKEN 2010/11
GRWP 1: Gleision Caerdydd, Northampton Saints, Caeredin, Castres Olympique
GRWP 2: Leinster, ASM Clermont Auvergne, Saracens, Racing Metro 92
GRWP 3: Munster, Gweilch, Gwyddelod Llundain, RC Toulon
GRWP 4: Biarritz Olympique Pays Basque, Rygbi Caerfaddon, Ulster, Rygbi Aironi
GRWP 5: Teigrod Caerlyr, Scarlets, Perpignan, Benetton Treviso
GRWP 6: Toulouse, Wasps Llundain, Rhyfelwyr Glasgow, Dreigiau Casnewydd Gwent
GEMAU CWPAN HEINEKEN 2010/11
ROWND 1 - 8/9/10 Hydref, 2010
ROWND 2 - 15/16/17 Hydref, 2010
ROWND 3 - 10/11/12 Rhagfyr, 2010
ROWND 4 - 17/18/19 Rhagfyr, 2010
ROWND 5 - 14/15/16 Ionawr, 2011
ROWND 6 - 21/22/23 Ionawr, 2011
ROWND Y CWARTERI - 8/9/10 Ebrill, 2011
ROWND CYN DERFYNOL - 30 Ebrill/1 Mai, 2011
ROWND TERFYNOL 16 CWPAN HEINEKEN - Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd - 21/22 Mai, 2011











