Mae'r chwaraewr poblogaidd, yn wreiddiol o Aberystwyth ac sydd wedi chwarae 201 o gemau dros y rhanbarth ac wedi ennill 42 cap dros Gymru, wedi derbyn y newyddion y bydd oddi ar y cae am hyd at bedwar mis, fe ddylai ddychwelyd i chwarae i'r Scarlets yn gynnar ym mis Hydref - y gobaith yw y bydd yn ôl erbyn rownd agoriadol Cwpan Heineken.
Dywedodd Jones: "Yn amlwg, mae'n sefyllfa rhwystredig iawn i fi, ond doedd dim opsiwn arall mewn gwirionedd, roedd yn rhaid i mi dderbyn yr ail lawdriniaeth er mwyn sicrhau fod yr ysgwydd yn cryfhau ac yn gwella'n llawn er mwyn sicrhau fy mod yn iawn yn yr hir dymor. Wrth dderbyn y llawdriniaeth tu allan i'r calendr rygbi mae'n golygu hefyd fy mod yn colli'r amser lleiaf posib o'r tymor rygbi.
"Dywedodd y llawfeddyg bod y llawdriniaeth wedi mynd yn dda, rwy'n teimlo'n iawn ac er ei fod yn gynnar o hyd, rwyf yn eithaf hyderus. Rwyf yn teimlo'n ddigon positif am ddychwelyd ac rwyf yn awyddus iawn i ddychwelyd i'r cae chwarae gyda'r Scarlets cyn gynted a phosib."
Dywedodd Jones ei fod yn awyddus iawn i ddychwelyd i'w safon cyn iddo dderbyn yr anaf mewn da bryd i gymryd rhan yng Nghwpan y Byd flwyddyn nesaf.
"Mae wedi bod yn siomedig wrth gwrs i dderbyn anaf fel hyn yn enwedig pan oedd pethau'n mynd yn dda ond mae'r rhanbarth wedi bod yn gefnogol iawn ac fe fyddaf yn ad-dalu'r gefnogaeth hwnnw pan fyddaf yn ôl ar y cae.
"Rwyf yn awyddus iawn i ddychwelyd i cyn gynted a phosib yn enwedig gyda Chwpan Rygbi'r Byd ar y gorwel ac rwyf yn edrych ymlaen i chwarae gyda'r Scarlets eto - mae yna dim arbennig yn datblygu ym Mharc y Scarlets ac wrth chwarae'n dda i'r Scarlets gobeithio y gallaf chwarae dros Gymru eto."











