Fe fyddwn yn Sioe Aberystwyth dydd Sadwrn, 12fed Mehefin, gyda stondin nwyddau a'r 'inflatable' ac fe fyddwn yng Nghaerfnarfon dydd Sul ar gyfer gwyl yr Hen Hogia.
Ar y 19eg a'r 20fed o Fehefin fe fyddwn yn ymgartrefu yng Ngelli Aur, Llandeilo ar gyfer Gwyl Cefn Gwlad Cymru, unwaith eto gyda stondin nwyddau'r Scarlets a gweithgareddau cymunedol.
Fe fydd gennym stondin nwyddau yn Nhycroes ar ddydd Sadwrn 19eg Mehefin wrth iddynt gynnal eu Parti ar y Cae. Dewch draw a dangoswch eich lliw.
Pob dymuniad da i'r chwech Scarlet sydd yn teithio gyda charfan Cymru. Fe aeth Stephen Jones, Matthew Rees, Tavis Knoyle, Jon Davies, Rob McCusker a Ken Owens i Seland Newydd dydd Mercher, fe fydd y gêm gyntaf yn erbyn y Crysau Duon ar ddydd Sadwrn 19eg Mehefin.











