Mae'r asgellwr cryf a pherwus, 27 mlwydd oed o Nigeria, wedi chwarae 25 o gemau i Lanymddyfri yn ystod y tymor diwethaf ac wedi sgori 11 cais. Cafodd gyfle i chwarae dros y Scarlets y tymor diwethaf hefyd, y cyntaf o'r gemau hynny yn erbyn Ulster yn y Cynghrair Magners.
Dywedodd: "Rwyf yn falch iawn o gael y cyfle yma i hyfforddi'n llawn amser gyda'r Scarlets ac rwyf yn edrych ymlaen i'r her a gweithio'n galed cyn ddechrau'r tymor i sicrhau fy mod yn ffit.
"Er i mi chwarae gyda'r Scarlets tymor diwethaf rwyf yn aelod newydd ar y cyfan ac mae gennyf lot i ddysgu o'r bois yn y garfan - pethau syml fel darllen y gêm a diwylliant y tim. Mae yna grwp da o fois yn y garfan ac mae yna awyrgylch arbennig. Rwy'n edrych ymlaen i fod yn rhan o'r awyrgylch hwnnw tymor nesaf ac rwy'n awyddus iawn i ddatblygu ac i ddysgu'n gyflym.
"Rwy'n mwynhau'r profiad o fod yn y rhan yma o'r byd, mae'r Scarlets wedi bod yn gefnogol iawn ac mae'r cefnogwyr yn angerddol iawn am eu rygbi ac rwyf wedi cael croeso arbennig."
Dywedodd y Prif Hyfforddwr Nigel Davies: "Mae gan Joe lawer i'w gynnig, mae'n chwaraewr cyflym a phwerus - mae e'n un o'r chwaraewyr hynny sydd a rhywbeth arbennig amdano ac mae angen y math yna o chwaraewr mewn tim. Fe fydd yn gallu manteisio ar y cyfle o hyfforddi gyda'r garfan yn llawn amser ac fe fydd yr hyfforddwyr yn gallu gweithio gyda ar agweddau penodol o'i gêm."
Ganwyd Joe Ajuwa yn Lagos, Nigeria a symudodd i'r DU gyda'i deulu (sy'n cynnwys naw brawd a 3 chwaer!) ym 1994. Chwaraeodd rygbi am y tro cyntaf yn ysgol yng Nghaerfaddon ac yna aeth ymlaen i chwarae dros Myfyrwyr Lloegr tra'n y Brifysgol. Ei arwr pan yn blentyn oedd Jonah Lomu. Mae ei frodyr Daniel and Shadrack Ajuwa wedi chwarae dros Glwb Rygbi Bryste.
Mae'r Scarlets wedi cyhoeddi hefyd eu bod wedi arwyddo cytundebau llawn amser gyda'r blaenasgellwr Aaron Shingler a'r bachwr Emyr Phillips a oedd ar gytundebau datblygu gyda'r rhanbarth y llynedd.
Chwaraeodd Emyr Phillips, 23 o Lanymddyfri, rol yn 10 o gemau'r Scarlets tymor diwethaf yn ogystal a 13 o gemau i Glwb Rygbi Llanymddyfri.
Magwyd Shingler, (6' 6") 22, yng Ngorllewin Cymru ac fe fynychodd Ysgol Gyfun Pontarddulais a Choleg Gorseinon.
Roedd yn gricedwr o fri ac fe arwyddodd gytundeb gyda thim Morgannwg yn 2007 cyn canolbwyntio ar ei rygbi.
Chwaraeodd 23 o gemau i Glwb Rygbi Llanelli tymor diwethaf, a sgoriodd 5 cais. Mae ei frawd Steven Shingler wedi chwarae i Gymru Dan 20 ac wedi chwarae gyda Aaron i Glwb Rygbi Llanelli.
Mae asgellwr y Scarlets a Chymru Darren Daniel wedi gadael y rhanbarth ac fe fydd yn ymuno a Chwins Caerfyrddin. Mae Daniel o Borth Tywyn wedi bod gyda'r Scarlets am bump tymor, chwaraeodd 65 o gemau a sgoriodd 21 cais. Chwaraeodd ddwy waith i'r Scarlets tymor diwethaf, tra'n chwarae'r rhan fwyaf o'i rygbi gyda'r Cwins yn nhymor 2009/2010.











