Mae'r pecynnau tocyn tymor newydd yn cynnig seddau gorau'r stadiwm i deulu o bedwar (un oedolyn a hyd at pedwar plentyn dan 18) am £199 y tymor yn unig - mae hynny'n golygu £12 i deulu ddod i wylio gêm!
Fe fydd pecynnau tocyn tymor Parc y Scarlets eleni yn cynnwys:
• Pris gorau am docyn tymor o fewn rygbi Cymreig; £99 am docyn tymor mewn mannau penodol o'r stadiwm.
• Cynnig arbennig o £199 am docyn tymor yn y cyfnod gwerthu agoriadol sy'n rhoi'r cyfle i gefnogwyr teyrngar i sicrhau eu seddau presennol yn Stand Castell Howell y De a Stand Gravells y Gogledd ar gyfer yr 16 gêm.
• Cynllun talu newydd sy'n rhoi'r cyfle i chi wasgaru eich taliadau dros 12 mis a fydd yn golygu talu £19 yn unig y mis am eich tocyn tymor.
• Tocyn tymor teulu sy'n rhoi'r cyfle i un oedolyn a hyd at pedwar plentyn dan 18 i eistedd mewn unrhyw ardal o'r stadiwm am £199 yn unig.
Mae'r rhanbarth, sydd a chefnogaeth deuluol gref, wedi penderfynu ar y prisiau newydd er mwyn ceisio annog mwy o chwaraewyr a chefnogwyr ifanc i fod yn rhan o brofiad y Scarlets, i wylio'u hoff chwaraewyr ac i'w hysbrydoli i chwarae a dilyn rygbi.
Mae hyn yn cefnogi polisi'r Scarlets i ddatblygu talent rygbi oddi fewn i rhanbarth y Scarlets fel y gwelir ymysg y canlynol; Rob McCusker, chwaraewr y flwyddyn Ken Owens, Rhys Priestland, Dominic Day a Josh Turnbull a'r newydd ddyfodiad Scott Williams a George North sydd wedi datblygu trwy system yr academi.
Fe fydd y tymor newydd yn cynnig digonedd o bethau i gefnogwyr gan gynnwys gemau yn erbyn Pencampwyr Cynghrair Lloegr Teigrod Caerlyr a chlwb ar frig cynghrair Ffrainc Perpignan a'r ddau glwb Eidalaidd newydd yn ymuno a Chynghrair Magners. Fe fydd yna 16 o gemau cartref gan y Scarlets tymor nesaf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets, Rupert Moon: "Y neges mawr yw ein bod yn awyddus iawn i groesawu mwy o bobl i rygbi'r Scarlets - i ymestyn ein teulu ac roedd yn holl bwysig i ni ein bod yn cynnig tocyn a'r gwerth gorau yn rygbi rhanbarthol Cymru, sydd wedi derbyn cefnogaeth ac anogaeth y Cyfarwyddwr Cyllidol.
"£99 yw ein tocyn rhata' - rydym wedi ymestyn manteision ein pecynnau ac rydym yn gallu cynnig y pris gorau i'n cefnogwyr o'u gamharu a phrisiau'r rhanbarthau eraill.
"Rydym wedi ceisio cynnig del arbennig i bobl ar gyfer y tymor nesaf ac mae yna amrywiaeth o becynnau sy'n cynnig rhywbeth i bawb. I ni'n ymwybodol iawn ei fod wedi bod yn anodd iawn i bobl yn enwedig gan gymryd i ystyriaeth y sefyllfa economaidd a dyna'r rheswm ein bod ni'n cynnig yr opsiwn i wasgaru'r taliadau dros 12 mis - cost o ryw £19 y mis.
"Rydym wedi trafod llawer am ddyfodol rygbi Cymru a datblygu'r talent gorau o rhanbarth y Scarlets ac rydym wedi gweld y llwyddiant hwnnw gyda chwaraewyr megis Tavis Knoyle, Ken Owens a Rob McCusker yn rhan o garfan Cymru ar y daith i Seland Newydd.
"Mae'n holl bwysig ein bod ni'n ymestyn yr ymrwymiad hwnnw oddi ar y cae chwarae hefyd yn rhoi cyfle i bawb fwynhau calon ac enaid rygbi rhanbarthol ym Mharc y Scarlets. Rydym wedi rhoi pwyslais mawr ar gynnig pris arbennig i bobl ifanc, teuluoedd a myfyrwyr i ddod i'n cefnogi yn wythnosol.
"Ein nod yw i fod yn gystadleuol gyda'n prisiau ac i gynnig amrywiaeth o ran profiadau ar ddiwrnod gêm. Rydym am i deuluoedd ddod yma i fwynhau ac i deimlo'n rhan o deulu rygbi'r Scarlets ac i annog ymrwymiad, parch ac angerdd ymysg pawb."
Mae'r cynlluniau a'r prisiau newydd yn dilyn gwaith grwpiau ymchwil ac adborth gan gefnogwyr y Scarlets dros y tri mis diwethaf.
Fe fydd tocynnau tymor y Scarlets yn cael eu lansio yn swyddfa docynnau Parc y Scarlets o 9am DYDD SADWRN - 19eg Mehefin.
Fe fydd dalwyr tocynnau tymor presennol yn derbyn gwybodaeth yn y post dydd Gwener a dydd Sadwrn.
Hyd at 30 Gorffennaf, fe fydd seddau dalwyr tcoynnau tymor presennol yn cael eu cadw cyn iddynt fynd ar werth yn gyffredinol. Fe fydd gwybodaeth pellach am brisiau, cyfnodau gwerthu a thermau ac amodau prynu yn cael eu cyhoeddi yma'n hwyrach yn yr wythnos.











