Fe fydd y profiadol Stephen Jones a Matthew Rees yn dechrau dros Gymru yn y gêm fawr yn erbyn y Crysau Duon.
Fel un sy'n ymwybodol iawn o'r her sy'n wynebu Cymru yn erbyn y Crysau Duon, dywedodd Stephen Jones, maswr y Scarlets: "Rydym wedi bod yn hyfforddi'n galed ac rydym yn paratoi'n feddyliol nawr ar gyfer y gêm."
Ychwanegodd bod y chwaraewyr ifanc newydd, gan gynnwys ei gyd-chwaraewyr o'r Scarlets, wedi ychwanegu at ddeinameg y tim. "Mae yna gymeriadau da yn rhan o'r garfan ac unigolion sy'n dangos eu bod yn chwaraewyr arbennig. I ni'n ymwybodol iawn bod yn rhaid i ni geisio sicrhau canlyniad yn erbyn Seland Newydd, roeddynt yn arbennig yn erbyn Iwerddon ond rydym yn dim uchelgeisiol ac yn garfan da - felly fe fyddwn ni'n rhoi o'n gorau dydd Sadwrn."
Dywedodd Warren Gatland, Prif Hyfforddwr Cymru, bod mewnwr ifanc y Scarlets wedi creu argraff: "Mae Tavis Knoyle yn chwaraewr arall sydd wedi creu argraff ac fel un sy'n credu'n gryf nad yw oedran yn bwysig, rwyf yn sicr y bydd e'n awyddus iawn i wneud ei orau os fydd angen e' dydd Sadwrn.
"Rydym yn chwarae'n erbyn un o'r timau gorau'n y byd ar hyn o bryd, ar eu tir eu hunain, nid yw sialensau cenedlaethol yn datblygu llawer yn fwy na hyn ond rydym yn benderfynol ac mae yna gred tawel yn y garfan ar hyn o bryd ein bod yn medru creu perfformiad a allwn fod yn browd ohono yn erbyn y Crysau Duon."
Mae'r Scarlets wedi cael cyfle wythnos hon i fwynhau amser rhydd cyn yr her fawr dydd Sadwrn ac maent wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol; aeth Stephen Jones, Matthew Rees, Jonathan Davies a Ken Owens ar daith mewn hofrennydd uwchben Wellington a stadiwm Westpac lle fydd Cymru'n wynebu De Affrica yng Nghwpan y Byd 2011.
Cymru: LEE BYRNE: LEIGH HALFPENNY, ANDREW BISHOP, JAMIE ROBERTS, TOM PRYDIE; STEPHEN JONES, MIKE PHILLIPS; PAUL JAMES, MATTHEW REES, ADAM JONES, BRADLEY DAVIES, ALUN-WYN JONES, JONATHAN THOMAS, GAVIN THOMAS, RYAN JONES (CAPT)
Eilyddion: HUW BENNETT, JOHN YAPP, DEINIOL JONES, ROB McCUSKER, TAVIS KNOYLE, DAN BIGGAR, JONATHAN DAVIES











