Ymhlith rhai o'r cynlluniau newydd i'w lansio gan y Scarlets y mae cynllun a fydd yn cynnig mwy o rhyddid i gefnogwyr ifanc i fynychu'r 16 gêm cartref - a fydd yn cynnwyd gemau'n erbyn Teigrod Caerlyr a Perpignan yn ogystal a'r gemau yn y Cynghrair Magners a'r gemau darbi.
Fe fydd yna Gynnig Ysgol Uwchradd - a fydd yn rhoi'r cyfle i gefnogwyr rhwng 11 a 18 mlwydd oed i gael tocyn sefyll am £16 am y tymor cyfan - hynny yw £1 y gêm!
Felly i'r rheini sydd am fod yn rhan o rygbi'r Scarlets, blasu awyrgylch ac adloniant diwrnod gêm Parc y Scarlets a chefnogi'ch arwyr lleol - beth am ddod fel grwp? Dewch gyda'ch ffrindiau a phrynwch tocyn tymor am £16 yn unig!
Mae yna fanteision ychwanegol i'n dalwyr tocyn tymor hefyd yn dilyn adborth a dderbyniwyd yn ein gwaith ymchwil gyda chi.
Mae'r adborth yma wedi'n cynorthwyo i baratoi ein pecynnau tocyn tymor sy'n cynnwys gostyngiadau ar deithio oddi cartref, gostyngiadau oddi ar bris llogi ystafelloedd, pecynnau lletygarwch unigryw, mynediad i falot tocynnau rhyngwladol a'r cyfle i brynu tocynnau ar gyfer y rowndiau ail gyfle. Er mwyn adeiladu ar gynigion y llynedd, mae gan deuluoedd y rhyddid i brynu seddau yn unrhyw le yn y stadiwm - yn hytrach na chael eu gosod mewn ardal deuluol.
Dywedodd Rupert Moon, Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets: "Y neges y tymor hwn yw ein bod am groesawu mwy o bobl i'r Scarlets ac ehangu ar ein teulu - roedd yn bwysig i ni weithio'n galed i gynnig y pris gorau yn rygbi rhanbarthol Cymru.
Rydym wedi trafod yn ddwys am ddyfodol rygbi Cymru wrth ddatblygu talent gorau'r rhanbarth ac rydym wedi gweld y llwyddiant hwn eleni gyda Tavis Knoyle, Ken Owens a Rob McCusker ar y daith i Seland Newydd.
"Mae'n bwysig ein bod yn hymestyn ein hymrwymiad i'r achos hwn oddi ar y cae yn ogystal a rhoi cyfle i bawb fwynhau calon ac ysbryd rygbi rhanbarthol ym Mharc y Scarlets pan yn ifanc - dyna'r rheswm ein bod wedi rhoi gymaint o bwyslais ar gynnig prisiau arbennig i bobl ifanc, teuluoedd a myfyrwyr i wylio rygbi'n wythnosol."
Mae'r Scarlets wedi datgan yr wythnos hon y bydd yna gynnigion arbennig ar gael gan gynnwys:
• Pris gorau am sedd yn rygbi Cymru a thocyn tymor am £99 mewn rhannau penodol o'r stadiwm.
• £199 am docyn tymor yn y cyfnod gwerthu cynnar a fydd yn rhoi'r cyfle i gefnogwyr teyrngar i sicrhau eu sedd ar gyfer yr 16 gêm yn Stand Castell Howell y De a Stand Gravells y Gogledd tymor nesaf.
• Cynllun talu newydd a fydd yn galluogi cefnogwyr i wasgaru'r taliadau dros 12 mis - sy'n golygu £19 y mis.
Fe fydd seddau dalwyr tocyn tymor presennol yn gallu sicrhau eu sedd hyd at 30ain o Orffennaf cyn iddynt fynd ar werth yn gyffredinol.
Fe fydd y seddau eraill i gyd ar werth o 9am dydd Sadwrn hefyd - felly dewch draw i Barc y Scarlets i gymryd mantais o'r cynigion arbennig a'r sedd gorau posib!
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i deulu'r Scarlets tymor nesaf - dewch draw i swyddfa docynnau Parc y Scarlets neu cysylltwch a nhw ar 0871 871 8088 neu ar y we www.scarlets.co.uk
Fe fyddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth fory!











