Rydym yn falch o gyhoeddi bod yr holl becynnau a phrisiau ar y we.
I weld yr holl wybodaeth am becynnau tocyn tymor 2010-2011 cliciwch yma: http://www.scarlets.co.uk/cym/cefnogwyr/tocynnau_tymor.php
Mae'r Scarlets wedi datgan yr wythnos hon y bydd yna gynnigion arbennig ar gael gan gynnwys:
• Pris gorau am sedd yn rygbi Cymru a thocyn tymor am £99 mewn rhannau penodol o'r stadiwm.
• £199 am docyn tymor yn y cyfnod gwerthu cynnar a fydd yn rhoi'r cyfle i gefnogwyr teyrngar i sicrhau eu sedd ar gyfer yr 16 gêm yn Stand Castell Howell y De a Stand Gravells y Gogledd tymor nesaf.
• Cynllun talu newydd a fydd yn galluogi cefnogwyr i wasgaru'r taliadau dros 12 mis - sy'n golygu £19 y mis.
Fe fydd seddau dalwyr tocyn tymor presennol yn gallu sicrhau eu sedd hyd at 30ain o Orffennaf cyn iddynt fynd ar werth yn gyffredinol.
Fe fydd y seddau eraill i gyd ar werth o 9am dydd Sadwrn hefyd - felly dewch draw i Barc y Scarlets i gymryd mantais o'r cynigion arbennig a'r sedd gorau posib!
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i deulu'r Scarlets tymor nesaf - dewch draw i swyddfa docynnau Parc y Scarlets neu cysylltwch a nhw ar 0871 871 8088.











