Yn ogystal a'r holl difyrrwch ynghlwm a lansio'r tocynnau tymor ym Mharc y Scarlets fe fydd staff y Scarlets yn brysur ar hyd a lled y rhanbarth hefyd fel rhan o'r daith haf fawreddog.
Cafwyd croeso cynnes iawn yn Sioe Aberystwyth a thwrnament rygbi'r Hen Hogia yng Nghaernarfon penwythnos diwethaf.
Gallwch ymuno a holl hwyl yr adran gymunedol a'r stondin nwyddau yng Ngwyl Cefn Gwlad Cymru yng Ngelli Aur fory a dydd Sul, 19eg a'r 20fed o Fehefin, neu fe allwch ymweld a'r stondin a fydd yn y Parti ar y Cae yn Nhycroes fory hefyd.
Fe fydd y daith haf fawreddog yn symud i'r gorllewin wythnos nesaf i fod yn rhan o'r diwrnod catrodol yn Sir Benfro.
Pob dymuniad da i'r pump Scarlet yn y gêm yn erbyn Seland Newydd fory (cic gyntaf 8.35am). Mae Stephen Jones a Matthew Rees yn rhan o'r tim gyda Jon Davies, Rob McCusker a'r newydd ddyfodiad Tavis Knoyle ar y fainc.











