Roedd Rupert Moon, Cyfarwyddwr Masnachol y Scarlets, yn bresennol gyda digonedd o luniaeth i'r cefnogwyr brwd ac roedd yn awyddus iawn i dderbyn adborth gan y cefnogwyr am y pecynnau tocyn tymor ar gyfer tymor 2010-2011 ym Mharc y Scarlets.
Dywedodd Rupert Moon: "Roedd yn wych i weld dalwyr tocynnau tymor presennol a newydd yn dangos eu lliw dydd Sadwrn, roedd yr adborth yn bositif iawn hefyd. Rydym yn cynnig pecynnau arbennig i'r cefnogwyr, dwy gêm yn ychwanegol yn y Cynghrair Magners a gemau diddorol iawn yn y Cwpan Heineken.
"Gallwch fwynhau rygbi am y tymor ym Mharc y Scarlets, un o stadia gorau Ewrop, a'r holl rhialtwch ym Mhentref y Cefnogwyr yng Nghanolfan Delme Thomas am £199 yn unig.
"Dywedodd nifer o bobl bod yr opsiynau newydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddynt, i bobl o bob oed ac i deuluoedd.
"Roedd yn wych i weld teuluoedd cyfan yma yn barod i brynu'r tocynnau tymor ac rydym yn ddiolchgar iawn am yr adborth bositif.
"Gwelwyd datblygiad yma ym Mharc y Scarlets tymor diwethaf gyda chefnogaeth lleisiol ar ddiwrnodau gêm ac rydym am barhau i ddatblygu ar y gefnogaeth hwnnw ac rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth a'r hymrwymiad i deulu'r Scarlets. Mae cynnig pecynnau tocyn tymor cystadleuol yn ffordd i ni ddweud diolch."
Y cefnogwr cyntaf i adnewyddu ei thocyn tymor oedd Clare Soady-Jackson, o Langennech. Dywedodd: "Rwyf wedi bod yn gefnogwr o'r Scarlets ers yn ifanc iawn. Roedd fy nhad yn dod a ni i Barc y Strade fel plant ac roeddwn i wrth fy modd. Rwyf i'n parhau a'r traddodiad hwnnw'n awr ac yn dod a fy meibion ifanc i bob gêm. Mae'n ddiwrnod arbennig i'r teulu i gyd. Maent wrth eu bodd ym Mhentref y Cefnogwyr ac rydym yn dod draw yn gynnar ar ddiwrnodau gêm er mwyn gwneud y mwyaf o'r adloniant a;r gweithgareddau sydd ar gael."
Yn bresennol ym Mharc y Scarlets dydd Sadwrn hefyd oedd teulu'r Galliers o Ferthyr Tudful. Fe fydd y teulu'n elwa o'r pecynnau newydd gan bod Rachel, sy'n 16 mlwydd oed, yn awr yn gallu mynychu am ddim hyd nes ei bod yn 18 yn lle talu pris oedolyn llawn.
Dywedodd y tad, Richard Galliers: "Rydym yn teithio trwy dwy rhanbarth i gyrraedd o Ferthyr ond mae e werth bob ceiniog a phob munud ar yr hewl.
"mae'r croeso i ni'n ei dderbyn yn wych ac mae yna gymaint o bethau i wneud yma. Rydym yn mwynhau dod i bob gêm cartref, fi a'r wraig a'r tri plentyn.
"Mae'r prisiau newydd yn golygu ein bod yn gallu dod heb orfod gwario'n ormodol ac mae Rachel yn gallu dod a ffrind gyda hi. Mae wedi bod yn gyfnod anodd, mae'n rhaid sicrhau bod yna ddigon o arian i dalu biliau gyntaf - ond mae'r cynnig newydd i deuluoedd yn golygu ein bod ni'n gallu parhau i gefnogi'r Scarlets fel dalwyr tocyn tymor tymor nesaf! Mae'r Scarlets wastad yn agos iawn i frig y restr o bethau pwysig!"











