Fe fydd Parc y Scarlets wedyn yn croesawu gwrthwynebwyr Cwpan LV= tymor diwethaf, Rhyfelwyr Caerwrangon ar ddydd Sadwrn 21 Awst, cic gyntaf 3pm.
Gwrthwynebwyr y gêm ola'n y gyfres bydd yr Exeter Chiefs nos Wener 27 Awst, cic gyntaf 7pm.
Fe fydd y gemau'n rhoi'r cyfle i gefnogwyr weld y garfan yn dilyn y gwersylloedd hyfforddi, sesiynau sgiliau a'r rhaglenni hyfforddi dros yr haf a chyn i'r tymor newydd ddechrau.
Gwnewch yn siwr eich bod chi'n bresennol i gael blas cynnar ar y wledd o rygbi sydd o'n blaenau yn nhymor 2010-2011.
Fe fydd gan ddalwyr tocyn tymor y cyfle i gadw eu sedd ar gyfer y gemau yma, ond ni fydd y gemau yn rhan o'r pecynnau tocyn tymor.
Mae tocynnau tymor ar werth ar hyn o bryd ym Mharc y Scarlets. Os nad ydych wedi cael cyfle i adnewyddu'ch tocyn tymor eto, neu os hoffech brynu am y tro cyntaf, galwch yn y swyddfa docynnau, ffoniwch ar 0871 871 8088 neu edrychwch ar y we am wybodaeth llawn http://www.scarlets.co.uk/cym/cefnogwyr/tocynnau_tymor.php
Fe fydd seddau dalwyr tocyn tymor yn cael eu cadw tan 30ain Gorffennaf 2010 cyn iddynt fynd ar werth yn gyffredinol.
Fe fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am brisiau tocynnau'r gemau cyfeillgar cyn bo hir.











