Fe fydd cyfle gan y disgyblion i gyfarfod rhai o sêr carfan y Scarlets a fydd yn hapus i sefyll am lun ac arwyddo eu llofnodion (yn dibynn ar rhaglen hyfforddi).
Am £20 yn unig (plant oed Blwyddyn 2) a £45 i blant ym mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 fe fydd y cwrs yn cynnwys yr holl hyfforddiant a chrys-t y Scarlets, cap pig y Scarlets, tocyn am ddim i gêm, luniaeth a chyfle i gyfarfod Cochyn!
Fe fydd Gwersylloedd Rygbi Haf y Scarlets yn digwydd o ddydd Llun 26ain i ddydd Gwener 30ain Gorffennaf.
Cynnigir y cyrsiau canlynol:
Blwyddyn 2 YN UNIG: Llun 26ain 10am i 12.30pm
Blwyddyn 3 a 4 YN UNIG: Mawrth 27ain - Mercher 28ain 10am - 3pm
Blwyddyn 5 a 6 YN UNIG: Iau 29ain - Gwener 30ain Gorffennaf 10am - 3pm
Lle i 100 yn unig sydd ar bob un o'r gwersylloedd ac yn draddodiadol mae galw am le ar y cyrsiau yn uchel iawn.
Am wybodaeth pellach cysylltwch a'r Adran Gymunedol ar 01554 783927 / 783934 neu ebostiwch justin@scarlets.co.uk or chris@scarlets.co.uk
Fe fydd yn bosib i chi lawrlwytho ffurflen Gwersyll Haf yma cyn bo hir











