Defnyddir yr arian a gesglir o bartneriaeth Cwpan Ryder Cymru i dalu am gostau rhedeg Uned Gefnogaeth Symudol Tenovus. Mae'r uned chwyldroadol yma yn rhoi triniaeth, cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i bobl yn eu cymunedau eu hunain.
Dywedodd Sarah Jordan, Codwr Arian Digwyddiadau Arbennig Tenovus: "Dyma'r tro cynta' i ni gynnal; yr her yma ac mae'n un hynod o heriol i'r golffwyr!
"Mae Tenovus wedi casglu dros £300,000 trwy'r bartneriaeth gyda Chwpan Ryder Cymru, y swm sydd angen ar Tenovus i redeg yr uned symudol am flwyddyn. Mae hwn yn gamp anhygoel ac fe fydd yn cynorthwyo Tenovus i gynnig triniaeth cancr a chefnogaeth i gleifion yn eu cymunedau eu hunian.
Bwriad yr her yw i chwarae 100 twll o golff mewn 24 awr ac mae'n rhaid i'r her ddigwydd ar gwrs golff yng Nghymru rhwng canol mis Mehefin a diwedd Gorffennaf 2010.
Nid oes hawl gan y golffwyr ddefnyddio cerbydau ar y cwrs felly fe fydd yn daith hir ar ddwy droed!
Dywedodd Garan Evans, rheolwr tim y Scarlets: "mae hwn yn mynd i fod yn her anferth. Roeddwn i'n eithaf awyddus pan nes i gytuno iddo fe'n y lle cyntaf ond mae'r nerfau'n dechrau boddi'r teimladau hynny nawr! Yr hyn na wnes i ei ystyried oedd faint o amser fyddai'n cymryd i chwarae 100 twll o golff!
"Fe fydd rhai o chwaraewyr y Scarlets yn ymuno a fi trwy gydol y dydd ac yn sicrhau digon o egni a chymhelliant!"
Mae'n debygol o fod yn ddiwrnod hir iawn i Evans, mae 100 twll yn 5 a hanner rownd o golff. Fe fydd yn rhaid iddo ddechrau'n gynnar iawn yn y bore am 4.30am ac yn ymuno gydag ef am y rownd agoriadol y bydd asgellwr y Scarlets a Chymru Mark Jones.
Fe fydd yr ail rownd yn dechrau tua 7.30am gyda arwr y Scarlets ac Iwerddon Simon Easterby.
Yn dilyn cinio haeddianol iawn fe fydd Vernon Cooper yn ymuno ag Evans am 2pm am y pedwerydd rownd ac yna fe fydd y mewnwr ifanc Rhys Priestland yn ymuno ag ef am 5pm.
Fe fydd Garan Evans yn gobeithio dechrau'r 10 twll ola' tua 8pm a gorffen cyn iddi dywyllu!
Os hoffech gefnogi Tenovus, a dangos eich cefnogaeth i rheolwr tim y Scarlets, Garan Evans, cliciwch ar y linc a noddwch ar y we. http://uk.virginmoneygiving.com/GaranEvansScarlets
Mae eich cefnogaeth chi yn fawr, neu'n fach, yn holl bwysig ac fe fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i waith uned symudol Tenovus.
Fe fydd eich arian chi yn …
Gall £200 bweru'r uned Symudol am 4 diwrnod
Gall £500 dalu costau tanwydd yr uned am bythefnos
Gall £2,500 dalu am gadair cemotherapi newydd
Her Golff 100 twll Garan Evans, Llun 28ain Mehefin, Clwb Golff Machynys











