Mae gan yr adran Gymunedol a'r Siop galendr prysur iawn dros yr haf ac fe fydd y Scarlets yn bresennol mewn amrywiaeth o sioeau a dugwyddiadau gwahanol ar draws y rhanbarth a thu hwnt.
Os cewch gyfle i ddod i'n gweld beth am dynnu llun o'ch hun yn y sioe a'i anfon at nerys@scarlets.co.uk a byddwch yn rhan o oriel Scarlets ar yr Hewl ar y we: http://www.scarlets.co.uk/eng/fans/galleries/2864.php
Fe fydd y Scarlets yn ymuno a Diwrnod Agored i'r Teulu ar faes awyr Breudeth fory, dydd Sadwrn 25ain Mehefin.
Fe fydd y digwyddiad yn ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu oll gyda nifer o atyniadau gwahanol megis tim parasiwtio, arddangosfeydd gan grwpiau lleol a milwrol, gemau, cerddoriaeth byw a llond lle o stondinau i'ch cadw'n brysur!
Dewch draw i weld stondin nwyddua'r Scarlets a fydd yn cynnwys nifer o eitemau a hyd at 50% oddi ar y pris llawn.
Fe allwch gael cyfle hefyd i ennill tocyn teulu i bedwar i un o gemau cartref y Scarlets trwy gael tro ar rhediad bynji'r Scarlets!
Ar ddydd Llun 28ain Mehefin fe fydd Rheolwr Tim y Scarlets, Garan Evans, yn cymryd rhan mewn her anferthol lle fydd yn rhaid iddo chwarae 100 twll o golff mewn 24 awr.
Fe fydd yn ymgyrmyd yn yr her er lles Tenovus, elusen swyddogol Cwpan Ryder Cymru, ac fe fydd yn chwarae 100 twll o golf yng Nghlwb Golff Machynys.
Defnyddir yr arian a gesglir o bartneriaeth Cwpan Ryder Cymru i dalu am gostau rhedeg Uned Gefnogaeth Symudol Tenovus. Mae'r uned chwyldroadol yma yn rhoi triniaeth, cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i bobl yn eu cymunedau eu hunain.
Os hoffech gefnogi Tenovus, a dangos eich cefnogaeth i rheolwr tim y Scarlets, Garan Evans, cliciwch ar y linc a noddwch ar y we. http://uk.virginmoneygiving.com/GaranEvansScarlets
Fe fydd y Scarlets yn symud ymlaen i Garnifal Porth Tywyn dydd Sadwrn 3ydd Gorffennaf. Fe fyddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn y man.











