Dangosodd y gêm gyfeillgar, a oedd yn gêm dysteb i Mark Jones, fod y tim mewn hwyliau da ac yn mwynhau eu gwaith er gwaetha'r tywydd gwlyb. Codwyd ysbryd y cefnogwyr ar brynhawn Sadwrn gwlyb gan berfformiadau unigol gwych.
Roedd yna berfformiadau unigol cryf gan nifer o chwaraewyr newydd yn ogystal a rhai o chwaraewyr mwy profiadol y tim - gan gynnwys yr asgellwyr deinamig Joe Ajuwa a'r harddegyn 18 oed George North - a'r ffefrynau Morgan Stoddart a Regan King.
Roedd y Prif Hyfforddwr Nigel Davies yn awyddus iawn i osod y gêm a'r canlyniad yn ei gyd-destun.
Dywedodd: "Roedd yn brofiad da i ni ac rwy'n hapus gyda'r canlyniad, ond mae yna waith i'w wneud o hyd yn yr wythnosau nesaf cyn i'r tymor gystadleuol ddechrau.
"Dyma'r canlyniad oeddem wedi ei ddisgwyl, mae'n bositif ac mae'n adeiladu ar y gêm wythnos diwethaf. Roedd yna berfformiadau unigol da ac fe chwaraewyd y patrymau yr ydym wedi bod yn paratoi, roedd hyn yn amlwg yn beth da.
"Fe wnaeth yr ail reng yn dda, mae'n rhaid iddynt ddangos eu gwerth ac roeddwn yn bles gyda pherfformiad Emyr Phillips hefyd - mae'n rhoi opsiynau i ni yn safle'r bachwr wrth symud ymlaen. Fe weithiodd Josh Turnbull yn galed fel arfer ac fe chwaraeodd Rhys Preistland yn dda hefyd.
"Braf oedd gweld Regan a Stodds (Morgan Stoddart) yn ôl yn chwarae'n dda ac fe fyddai Joe Ajuwa wedi bod yn un i'w wylio i'r nifer o bobl oedd heb ei weld o'r blaen - mae'n un o'r nifer o chwaraewyr sydd a dyfodol disglair o'i flaen."
Ychwanegodd Davies ei fod yn braf gweld y tim yr un mor awyddus ar ddiwedd y gêm ac oeddynt ar y dechrau a hynny'n dilyn llawer o waith cyflyrru fan yr hyfforddwr o Awstralia Brad Harrington.
"Roedd yn rhaid i ni sicrhau yn ystod yr haf bod y chwaraewyr mewn cyflwr da yn gorfforol. Mae'n rhaid i ni weithio'n galed ar y cae am yr wythdeg munud. Roedd y bois yn fwy ymosodol wrth amddiffyn hefyd."
Dywedodd Davies bod yna gystadleuaeth am lefydd a datblygiad o ran cryfder mewn carfan gymharol fach.
"Mae cystadleuaeth am lefydd yn ychwanegu rhywbeth i'r garfan. Bu'n rhaid i ni fuddsoddi lot yn ein chwaraewyr y tymor diwethaf ond mae hynny'n y gorffennol erbyn hyn ac mae'n amser iddynt brofi eu hunain y tymor hwn."
Roedd y tim hyfforddi yn sicr yn falch gyda'r canlyniad yn enwedig wrth gofio bod saith chwaraewr rhyngwladol yn dal heb ddychwelyd i'r cae eto (Jones, Rees, Knoyle, McCusker, Davies, Owens a Lamont).











