Wrth i'r densiwn gynyddu ar gyfer y tymor newydd, mae'r Scarlets yn hapus hefyd i glywed bod dau o'r cefnwyr wedi pasio profion ffitrwydd ddoe (Iau) ac yn barod i wynebu Treviso.
Mae'r maswr Rhys Priestland, perfformiwr gorau'r haf, wedi pasio prawf ffitrwydd wedi iddo dderbyn cnoc i'w ysgwydd penwythnos diwethaf yn erbyn yr Exeter Chiefs . Yn ymuno age f bydd y cefnwr Morgan Stoddart sydd wedi dangos ei botensial yn barod y tymor hwn yn dilyn anfiadau'r llynedd.
Mae'r blaenasgellwr Rob McCusker, a enillodd ei gap rhyngwladol cyntaf dros yr haf, wedi ei enwi fel capten ac mae hyn yn profi'r dyfnder sy'n datblygu ymysg y garfan a bod datblygu talent lleol yn talu ar ei ganfed.
Mae McCusker, sydd wedi dangos aeddfedrwydd yn ystod y 18 mis diwethaf, yn cymryd lle'r wythwr David Lyons a dynodd llinyn y gar yn ystod sesiwn hyfforddi'n gynharach yn yr wythnos. Mae disgwyl i Lyons ddychwelyd wythnos nesaf ar gyfer gêm cartref cynta'r tymor yn erbyn Connacht, prynhawn Sadwrn (cic gyntaf 3.00pm). Mae'r prop Rhys Thomas wedi ei adael allan o'r tim wedi iddo dynnu llinyn y gar yn erbyn Caerwysg wythnos diwethaf.
Mae'r Scarlets wedi penderfynu dewis chwaraewyr profiadol ar y fainc gan gynnwys y chwaraewr rhyngwladol Jonny Fa'amatuainu, a thri o sêr ifanc Cymru y bachwr Ken Owens, y mewnwr Tavis Knoyle a'r canolwr Jonathan Davies.
Dywedodd tim hyfforddi'r Scarlets eu bod yn bles gyda'r ffordd y mae'r garfan yn datblygu ac maent wedi dewis tim sy'n adlweyrchu'r gwaith sydd wedi ei wneud dros yr haf.
XV y Scarlets: 15 Morgan Stoddart, 14 George North, 13 Gareth Maule, 12 Regan King, 11 Andy Fenby, 10 Rhys Priestland, 9 Martin Roberts, 1 Iestyn Thomas, 2 Emyr Phillips, 3 Deacon Manu, 4 Lou Reed, 5 Damian Welch, 6 Josh Turnbull, 7 Johnathan Edwards, 8 Rob McCusker (capt).
Eilyddion: Ken Owens, Phil John, Peter Edwards, Vernon Cooper, Jonny Fa'amatuainu, Tavis Knoyle, Daniel Evans, Jon Davies.
Dywedodd y Prif Hyfforddwr Nigel Davies: "Mae gennym gynlluniau clir ar gyfer ein chwaraewyr rhyngwladol trwy'r tymor hir a chystadleuol ac mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cael y gorau ohonynt.
"Rydym yn dechrau gweld gwir ddyfnder yn y garfan. Rwyf yn gyfforddus iawn gyda'r amrywiaeth o chwaraewyr sydd gennym a dyma'r cryfaf i ni wedi bod ers i mi gyrraedd yma. Gyda nifer o chwaraewyr profiadol a grwp o chwaraewyr ifanc yn datblygu mae yna amrywiaeth da a chystadleuol yma.
"Rydych yn gweld y garfan yn dod at ei gilydd pan mae'n anodd dewis tim. Mae'n le iachus i fod ac mae'n rhaid i bawb wella'u safonnau.
"Mae yna awyrgylch positif ym Mharc y Scarlets ar hyn o bryd - mae yna lot o waith i'w wneud o hyd ond mae yna botensial gwirioneddol yn y garfan."
Wrth son am y gwrthwynebwyr Eidalaidd nos fory, dywedodd Davies: "Rydym yn chwilio am ddechrau da i'r tymor yn Treviso fory. Mae'r gêm gyntaf yn anodd o hyd. Rydym yn awyddus iawn i gael dechrau da, fe fydd yn gêm gystadeluol ac mae'r chwaraewyr yn ymwybodol o hynny.
"Mae'n disgyblaeth ni'n holl bwysig ac roedd y gêm yn erbyn Caerwysg wythnos diwethaf yn dda i ni chwarae gêm tebyg i'r Eidalwyr; pac cryf a threfnus ac fe'n profwyd ni mewn ardaloedd penodol.
"Mae gan y clybiau Eidalaidd arian mawr ac fe fydd y ddau dim yn gystadeluol iawn yn y Cynghrair Magners."
Scarlets v Benetton Treviso, Sadwrn 4ydd Medi yn Stadio Monigo cic gyntaf 7.05pm (amser lleol). Fe fydd 20 munud agoriadol y gêm yn fyw ar S4C gyda uchafbwyntiau'r sogr o hynny ymlaen ar ddarllediad byw gêm Gleision Caerdydd v Caeredin, cic gyntaf 6.30pm.
Fe fydd y Scarlets yn diweddaru'r sgor hanner amser a llawn amser ar y wefan www.scarlets.co.uk ac ar Facebook a Twitter. Gwiriwch gwefan Cynghrair Magners hefyd www.magnersleague.com. Fe fydd adroddiad llawn a lluniau ar wefan y Scarlets nos Sadwrn.











