"Rydym wedi gwneud newidiadau arwyddocaol i nifer o ardaloedd o'n gêm wedi astudio'r perfformiadau'n fanwl wedi'r tymor diwethaf ac mae'r chwaraewyr wedi bod yn gweithio'n galed ar hyn yn ystod yr haf.
"Mae wedi bod yn gyfnod prysur yn ystod yr haf. Ar wahan i'r chwaraewyr rhyngwladol a fuodd ar daith gyda Chymru, y chwaraewyr sydd wedi bod gyda ni trwy'r haf ac sydd wedi cael amser i ymarfer y newidiadau ac wedi cael y cyfle i addasu.
"Mae'r rheini sydd wedi bod gyda thimau rhyngwladol wedi bod yn dilyn rhaglenni hyfforddi tebyg dros y dair wythnos diwethaf i fynd law yn llaw gyda gweddill y garfan. Mae hyn wedi dilyn cyfnodau pwysig o orffwys wedi'r teithiau rhyngwladol ac yna gyfnod penodol o hyfforddi cryfder a chyflyru.
"Mae'r tim ar gyfer ein gêm agoriadol wedi ei ddewis i adlewyrchu'r holl ffactorau yma gan gymryd i ystyriaeth ambell anaf bychan wythnos diwethaf. Fe fydd yn cynnwys y rhan fwyaf o'r tim a wynebodd Caerwrangon a'r rheini a chwaraeodd hanner agoriadol y gêm yn erbyn Caerwysg. Roedd yn amlwg bod nifer o'n chwaraewyr rhyngwladol ychydig yn rhydlyd, ond rwyf yn disgwyl iddynt ddod yn ôl i'w gêm yn gyflym iawn.
"Yn fy marn i dyma'r tim gorau i wynebu Treviso ar hyn o bryd ac rwy'n mawr obeithio y gwelwn mwy gan nifer o'r chwaraewyr sydd wedi dangos talent dros yr haf.
"Fe fydd y fainc yn gryf hefyd ac fe all hwn gael effaith yn ystod cyfnodau allweddol o'r gêm.
"Mae'r chwaraewyr yn ymwybodol bod angen iddyn nhw berfformio yn dda er mwyn sicrhau canlyniad yn erbyn Treviso oherwydd fe fydd yn gêm enfawr iddyn nhw, ond mae'n gêm enfawr i ni hefyd.
"Nid yw gêm agoriadol y tymor yn rhywdd i unrhyw dim ond rwyf yn bles gyda'r cynnydd yr ydym wedi ei wneud yn ystod yr haf, gyda gêm Caerwrangon a hanner agoriadol y gêm yn erbyn Caerwysg. Mae'n rhaid i ni adnabod hefyd bod yna lot o waith ar ôl i'w wneud ac mae'r tymor yn dechrau'r iawn dydd Sadwrn.
"Rydym ni gyd yn benderfynol o adeiladu ar ein perfformiadau o'r tymor diwethaf. Y Cynghrair Magners yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud o wythnos i wythnos ac mae'n rhaid i ni wneud ein bod ni'n gryf yn y gynghriar ac yn ffocysu ar y gystadleuaeth yn enwedig gyda'n gemau cartref - mae'n rhaid i Barc y Scarlets fod yn le anodd i'r gwrthwynebwyr ddod.
"Un o'r peth mwyaf calonogol i fi yw'r dyfnder swydd gennym ni nawr yn y garfan, mae'n sicrhau cystadleuaeth ar gyfer llefydd ac mae hyn yn dechrau dangos. Mae hyn yn allweddol i ddyfodol a llwyddiant y garfan.
"Rydym wedi dioddef yn y gorffennol oherwydd diffyg dyfnder, ond mae'n polisi o ddatblygu chwaraewyr o'r rhanbarth yn dwyn ffrwyth ac mae'r egni a;r ysbryd yn y garfan ar hyn o bryd yn gryf iawn."











