Dangoswyd ffrwyth llafur y rhanbarth wrth ddatblygu talent lleol a rhanbarthol yn Treviso gyda'r newydd ddyfodiad George North, yn sgori dwy gais yn ei gêm agoriadol i'r Scarlets.
Er nad yw wedi cael yr un profiad a llawer o'r chwaraewyr eraill ar y cae, fe ddangosodd botensial mawr yn y gêm.
Yn ychwanegol i'w lwyddiant ef y mae llwyddiant talent ifanc arall y rhanbarth fel Tavis Knoyle, Ken Owens, Rhys Priestland a Rob McCusker - sydd wedi gwella a datblygu'n arloesol ers y tymor diwethaf. Cafodd McCusker, a enillodd gapiau i Gymru dros yr haf, y cyfle i fod yn gapten ar y Scarlets yn yr Eidal nos Sadwrn.
Dywedodd y Prif Hyfforddwr Nigel Davies:
"Rydym yn amlwg yn rhystredig ein bod wedi colli'n gêm agoriadol yn enwedig wedi hanner agoriadol da. Roedd y tim yn ddigon da i ennill y gêm, fe ddylem fod wedi sicrhau'r fuddugoliaeth ac rydym nig yd yn siomedig iawn ein bod wedi dod oddi yno wedi colli.
"Fodd bynnag, rwyf yn dal i gredu mai dyna oedd y tim gorau ar gyfer y gêm. Ni oedd a rheolaeth y gêm yn yr hanner cyntaf. Chwaraewyd nifer o batrymau yr ydymw edi eu hymarfer ar y cae hyfforddi.
"Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ar batrymau gwahanol; mae'n rhaid i ni fod yn bles a hanner agoriadol y gêm. Mae yna lawer yn ein gêm ni ar hyn o bryd ac fe welwyd hynny yn y gemau cyfeillgar dros yr haf. Rwyf wedi dweud fy mod yn gyfforddus iawn gyda'r garfan ar hyn o bryd ac mae'n rhaid i ni eu cefnogi, mae yna ddigonedd o safon yn datblygu ymysg y garfan ac rydym yn gallu edrych yn beryglus gyda'r bêl yn ein dwylo.
"Fe ddaeth Treviso i'r cae yn llawer cryfach ar gyfer yr ail hanner, a phob parch iddynt fe lwyddon nhw i godi momentwm. Cafodd Treviso lot mwy o sgrymiau na ni, llawer mwy o leiniau a dyna'i gêm nhw.
"Nid oeddem yn ddigon corfforol yn hwyr yn y gêm ac fe rhoddodd hyn gyfle i Treviso. Fe fyddwn yn edrych ar ffyrdd i adeiladu'r momentwm wythnos nesaf yn ail hanner y gêm. Nid yw'n dderbyniol i ni golli 18 pwynt yn yr ail hanner - mae'n rhaid i ni reoli'n amser yn well yn yr ail hanner.
"Mae'n rhaid i ni ddysgu i wneud pethau'n wahanol pan mae'r momentwm yn newid - mae'n rhaid i ni ddal gafael ar y bêl, bod yn fwy cywir, arafu'r bêl a sicrhau ein bod yn ôl yn y gêm."
Y Scarlets yw'r ail rhanbarth Cymreig gorau yn y tabl ar hyn o bryd ond wedi ennill pwynt bonws a thri chais, mae'r rhanbarth yn ymwybodol iawn bod yna lot o waith i'w wneud eto.
Ychwanegodd Davies: "Rydym wedi datgan bod yn rhaid i ni sicrhau llwyddiant yn ein gemau cartref ac fe fyddwn yn gobeithio gwella hynny dydd Sadwrn.
"Fe fyddem wedi eisiau sicrhau buddugoliaeth yn ein gêm agoriadol ond fe fydd pwysigrwydd cylchdroi chwaraewyr yn dod yn amlwg trwy gydol y tymor.
"Rydym yn dim y Scarlets, nid ydym yn ffocysu ar un neu ddau unigolyn, mae'n rhaid i ni gefnogi'r garfan a'r holl chwaraewyr sydd yn rhan ohono. Mae'n rhaid i ni rhoi cyfleoedd i'n talent ifanc a chredu yn y tim."











