Fe fydd yr hwyl yn dechrau am 1pm wrth iddrysau'r Pentref agor ac fe fydd yn cynnwys yr hen ffefrynnau mochyn rhost, 'inflatables' y Scarlets, gardd gwrw deuluol, peintio wynebau am ddim, Cochyn, castell bownsio ac ymweliadau gan chwaraewyr y Scarlets.
Yn ogystal a hyn oll fe fyddwn ni'n croesawu tim o 'Trysordy' prynhawn Sadwrn. Pair hud yn llawn trysorau tu allan i Gaerfyrddin yw Trysordy. Dewch draw ac fe cewch eich synnu a'ch hysbrydoli. Darganfyddwch eich ochr greadigol o 1pm ym Mhentref y Cefnogwyr; gwahoddir plant o bob oed i ddod draw i gymryd rhan mewn gweithdy grefftau.
Fe fydd y gweithdai yn rhad ac am ddim i blant felly darganfyddwch eich ochr greadigol i greu offerynau cerdd Scarlets!
Yn westai arbennig yma prynhawn Sadwrn hefyd y bydd Gravells Cydweli ac maent yn eich croesawu chi i ymuno yn ei 'Festival de Joie'. Dewch draw i Bentref y Cefnogwyr i weld ceir newydd Renault, cymrwch rhan mewn cystadleuaethau i ennill gwobrau arbennig gan gynnwys: Tocynnau lletygarwch Scarlets v Gweilch, tocynnau gêm Cymru v Seland Newydd a llawer mwy.
Fe fydd yna lawer o gemau a chystadleuaethau i oedolion a phlant cyn ac ar ôl y gêm.
Croesawn y gantores Jemma Krysa i'r stadiwm a fydd yn eich croesawu gyda'i llais felfedaidd wrth i chi gyrraedd Parc y Scarlets.
Mae Jemma wedi perfformio mewn ffilmiau, wedi ymddangos ar rhaglen 'This Morning' ac mae'n gobeithio cyrraedd rownd terfynol Open Mic UK. Ewch i dudalen Jemma i ddarganfod mwy www.myspace.com/krysajem.
Scarlets v Connacht, Sadwrn 11eg Medi, cic gyntaf 3pm. Prynnwch eich tocynnau ar y we neu o'r Swyddfa Docynnau cyn 5pm dydd Gwener i gymryd mantais o brisiau cynnar.











