Mae'r capten a'r Prif Hyfforddwr wedi bod yn llym gyda'r chwaraewyr yr wythnos yma - yn dilyn y golled yn erbyn Treviso yn yr Eidal.
Mae'r gystadleuaeth yn cynyddu yng ngharfan y Scarlets, ac mae yna ambell ddewis anodd wedi ei wneud ar gyfer y gêm dydd Sadwrn ond mae'r Prif Hyfforddwr Nigel Davies o'r farn bod hyn yn sicrhau 100% yn y sesiynau hyfforddi.
"Mae'n awyrgylch gystadleuol iawn yma ar hyn o bryd, a dyna'n union beth ro'n i am weld. Rwyf wedi gwneud yn gwbwl glir yr wythnos hon na fyddwn yn gadael unrhyw allan o'r broses dewis a dethol os ydyn nhw'n ffit ac yn iach" dywedodd Davies.
"Ry'n ni'n cyflwyno rhai o'r chwaraewyr rhyngwladol yn ôl ar gyfer y gêm agoriadol, ac roedd hwnnw'n rhan o'r cynllun o'r cychwyn.
"Y peth pwysica' yw bod yn rhaid i ni ennill gemau ac yn y gorffennol ry'n ni wedi ceisio ennill gemau gyda rygbi pert ond dyw hynny ddim wastad yn gweithio. Methu wnaethon ni yn yr Eidal ac mae'n rhaid i ni ddysgu i newid y momentwm mewn gemau. Un neu ddau gyfle yn unig a gafodd Treviso ond fe wnaethon nhw'r mwyaf o'r cyfleoedd, ac mae'n rhaid i ni ddysgu i atal hynny."
Martin Roberts sydd wedi ennill y frwydr yn safle'r mewnwr, mae Rhys Thomas a David Lyons yn dychwelyd yn dilyn anafiadau bach wythnos diwethaf ac fe fydd y byd enwog Stephen Jones yn dychwelyd yn safle'r maswr gyda Rhys Priestland yn symud i safle'r cefnwr.
Yn dilyn ceisiau arbennig yn ei gêmAfter a stunning brace of tries on his competitive debut last week in Italy, 18 year-old winger George North is rewarded with a place in a top ranking Scarlets XV, with Scottish international Sean Lamont, Wales international centre, Jon Davies and All Black legendary centre Regan King for company.
Dywedodd Nigel Davies y dyali gêm cynta'r tymor fod yn ddigwyddiad arbennig gyda lot o densiwn ac awyrgylch trydanol. Mae'r rhanbarth yn gobeithio gweld tyrfa fawr gyda'r cic gyntaf am 3 o'r gloch sy'n berffaith ar gyfer teuluoedd.
Dywedodd Davies: "Mae hwn yn gêm pwysig i ni, ry'n ni am adeiladu momentwm ar ddechrau'r tymor fel redden ni wedi gobeithio gwneud wythnos diwethaf."
Nid yw'r Scarlets yn cymryd dim yn ganiataol er bod ganddynt record cartref cryf yn erbyn Connacht - yn enwedig wedi i'r ymwelwyr sicrhau buddugoliaeth dda dros y Dreigiau penwythnos diwethaf.
Dywedodd Davies: "Mae Connacht yn dim da ac fe welwyd gêm dda yn erbyn y Dreigiau wythnos diwethaf. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein hunain yn fwy y tymor yma ac ychydig yn llai ar ein gwrthwynebwyr. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein amddiffyn yn gryf.
"Hwn fydd ein gêm cyntaf ni yma ym Mharc y Scarlets. Ry'n ni am ddangos i'n cefnogwyr ein bod wedi datblygu o'r ddau dymor diwethaf a bod y chwaraewyr yn barod am yr ornest. Yr unig ffordd i wneud hynny yw i ennill gemau ac ennill yn dda. Un o'n amcanion yw i wneud Parc y Scarlets yn le anodd i'r ymwelwyr ddod, ac mae hynny'n dechrau dydd Sadwrn."
Tim y Scarlets i wynebu Connacht: 15 Andy Fenby, 14 George North, 13 Regan King, 12 Jon Davies, 11 Sean Lamont, 10 Stephen Jones, 9 Martin Roberts, 1 Phil John, 2 Matthew Rees (capt), 3 Rhys Thomas, 4 Lou Reed, 5 Jonny Fa'amatuainu, 6 Josh Turnbull, 7 Johnathan Edwards, 8 Rob McCusker.
Eilyddion: 16 Ken Owens, 17 Iestyn Thomas, 18 Peter Edwards, 19 Dominic Day, 20 Nic Cudd, 21 Tavis Knoyle, 22 Gareth Maule, 23 Rhys Priestland.











