Fe fydd King yn ymuno a phencampwyr Ffrainc Clermont Auvergne tymor nesaf ar gytundeb dair mlynedd. Ymunodd a'r Scarlets ym mis Mai 2005.
Mae King yn adnabyddus am ei sgiliau wrth drafod y bel a'i ystwythder, dychwelodd i'w orau tymor hwn ar ol dioddef o anafiadau yn 2008/09 a 2009/10.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies: "Mae Regan wedi bod yn holl bwysig yn ein rygbi ers nifer o flynyddoedd ac fel chwaraewr mae ganddo sgiliau a rhinweddau sy'n anodd i'w ffeindio'n unman arall. Mae'n dalent anhygoel ac mae wedi bod yn wych i'w weld yn dychwelyd i'w orau y tymor hwn.
"Mae ei brofiad e fel un o'n chwaraewyr h?n ni wedi bod yn hynod o allweddol dros y tymhorau diwethaf - mae ein cefnwyr ni wedi elwa'n fawr o chwarae a hyfforddi ochr yn ochr ag ef.
"Roedd cytundeb Regan yn dod i ben gyda ni ar ddiwedd y tymor ac mae e'n ein gadael ni gyda'n dymuniadau gorau. Mae gan glybiau Ffrainc arian i wario ar chwaraewyr gorau Ewrop.
"Ry'n ni'n ddiolchgar iawn i Regan am ei waith dros y chew tymor diwethaf ac ry'n ni'n dymuno pob dymuniad da iddo ef a'i deulu yn Ffrainc."
Ganwyd King yn Christchurch, Seland Newydd ac mae ganddo dad Prydeinig. Enillodd ei unig gap i Seland Newydd yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Tachwedd 2002. Fe ymunodd a'r Scarlets yn 2005/06 o Stade Francais. Mae wedi chwarae 135 o gemau i'r Scarlets gan sgori 185 o bwyntiau. Mae wedi ymddangos mewn 19 o gemau y tymor hwn ac wedisgori pedair cais.
Dywedodd Regan King: "Hoffwn ddiolch i bawb yn y Scarlets, y tim hyfforddi, y chwaraewyr a'r cefnogwyr am chew mlynedd gret. Mae wedi bod yn anrhydedd mawr i fod yn rhan o'r clwb arbennig hwn, gyda'i hanes ac ysbryd. Mae fy nheulu wedi cael eu croesawu i'r ardal ac ry'n ni wedi mwynhau ein amser ni yma yn Llanelli, ry'n ni wedi gwneud ffrindiau da ac fe fydd yn le arbennig i ni oherwydd dyma lle ganwyd ein plant.
"Mae'n rhaid edmygu'r gwaith y mae'r Scarlets yn ei wneud i ddatblygu talent ifanc o'r rhanbarth ac o'r hyn yr wyf wedi ei weld fe fydd yn beth da i ddyfodol y Scarlets.
"Mae wedi bod yn benderfyniad anodd i adael y Scarlets a'r bois oherwydd rwyf wedi bod yma ers cyfnod. Maent yn grwp da o chwaraewyr ac mae awyrgylch gret yma.
"Roedd y cynnig o Ffrainc ar y cyfnod yma yn fy ngyrfa yn iawn i fi a'r teulu ac ro'n i'n teimlo ei fod yn amser i symud ymlaen. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb yn y Scarlets ac fe fyddai'n mynd o ma gyda atgofion da o Barc y Strade a Pharc y Scarlets."
Mae'r Scarlets wedi bod yn gweithio'n galed tu ol i'r llenni dros y tri mis diwethaf i sicrhau rhai o'r chwaraewyr erbyn tymor nesaf ac fe fydd cyhoeddiadau pellach i ddilyn dros y mis nesaf.
Dywedodd Nigel Davies: "Rwy'n gyfforddus iawn gyda'r ffordd yr y'n ni'n sicrhau talent i'r Scarlets wrth symud ymlaen. Mae'r grwp yma wedi datblygu'n sylweddol dros y 18 mis diwethaf ac fe fyddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn nhalent ifanc o'r rhanbarth.
"Ry'n ni'n disgwyl gwneud y cyhoeddiadau yma yn dilyn y Chwe Gwlad pan fydd y grwp yn ol gyda'i gilydd ym Mharc y Scarlets."











