Mae asgellwr y Scarlets Morgan Stoddart yn dychwelyd i'r tim am y tro cyntaf ers Hydref 2008 ar ol hanner tymor hyderus i'r Scarlets ar ol dychwelyd o anaf.
Yr unig chwaraewr di-gap yn 22 Cymru yw Rhys Priestland, prif sgoriwr y Scarlets y tymor hwn (183 pwynt) ac ef fydd Scarlet rhif 201 i ennill cap rhyngwladol ar ol i George North gyrraedd 200 yn yr hydref - ef fydd chwaraewr rhif 1,079 i chwarae dros Gymru.
Mae Cymru wedi penderfynu dewis Davies yn y canol ynghyd a Jamie Roberts (Gleision), partneriaeth a brofodd yn llwyddiannus ar y daith i Seland Newydd yn yr haf.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies: "Rwy'n falch iawn o'n chwaraewyr i gyd, maent wedi gweithio'n galed i gyrraedd y man hwn ac mae'n esiampl da o'r datblygiad sydd wedi digwydd yn y rhanbarth.
"Mae'r bois yma wedi parhau i weithio'n galed, maent yn chwaraewyr proffesiynol iawn ac mwedi rhoi o'u gorau i'r Scarlets. Maent yn haeddu pob clod."
CYMRU: James Hook; Morgan Stoddart, Jamie Roberts, Jonathan Davies, Shane Williams; Stephen Jones, Mike Phillips; Paul James, Matthew Rees (C), Craig Mitchell, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton, Andy Powell
EILYDDION: Richard Hibbard, John Yapp, Ryan Jones, Jonathan Thomas, Dwayne Peel, Rhys Priestland, Lee Byrne











