Mae'r rhanbarth wedi galw ar nifer o chwaraewyr Clwb Rygbi Llanelli ar gyfer y gem fel grwp o chwaraewyr datblygu.
Dywedodd y Prif Hyfforddwr Nigel Davies: "Mae'n amser anodd i ni, 38 sydd yn ein carfan ac mae gymaint ar ddyletswydd rhyngwladol neu allan oherwydd anafiadau, fodd bynnag yr ochr bositif yw ein bod yn rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc sy'n awyddus iawn i ddangos eu sgiliau a chymryd balchder yn y crys.
"Mae'n rhaid i ni gadw mewn cof hefyd bod tair gem holl bwysig o'n Blaenau yn y Cynghrair Magners ac mae'n rhaid i ni reoli amser ein chwaraewyr iach yn gywir. Ry'n ni'n mynd i wynebu Connacht oddi cartref ac Ulster a Chaeredin ym Mharc y Scarlets, ac mae pob un o'r gemau hynny'n bwysig.
"Ry'n ni'n ymwybodol iawn y bydd y Dreigiau yn gobeithio ennill er mwyn cyrraedd brig ei grwp. Mae chwarae'r chwaraewyr yma nawr yn mynd i fod yn beth positif yn y pendraw.
"Wrth edrych nol ryw 18 mis roedd rhai o'n prif chwaraewyr heddiw yn cael cyfle yn y brif tim a dyna'r ffordd i ddatblygu talent ifanc.
"Fe fydd gem dydd Sul yn un anodd, ond fe fydd hefyd yn brofiad da i'r chwaraewyr.
"Ry'n ni'n paratoi'r tim i ennill y gem yma ond ry'n ni'n ymwybodol y bydd angen i ni sicrhau dechrau da.
"Rhan o'r datblygiad yw i baratoi'r chwaraewyr yma i ennill, fe fyddwn ni'n mynd i'r gem gyda'r un meddylfryd ag arfer, ry'n ni wedi bod yn llwyddiannus yn erbyn y Dreigiau dros y dair mlynedd diwethaf ac fe fyddwn ni'n gobeithio sicrhau'r un canlyniad dydd Sul."
Y prop profiadol Phil John bydd yn arwain y Scarlets gyda'r prop pentynn Rhys Thomas yn dychwelyd ar o lei anaf. Mae digon i'w gynnig ymysg y linell ol gyda Daniel Evans yn gefnwr, Darren Daniel yn dychwelyd o Gwins Caerfyrddin ar yr asgell, cyn seren Cymru Dan 20 Scott Williams yn y canol a Gareth Davies yn safle'r mewnwr.
Scarlets i wynebu'r Dreigiau, 6/2/11, cic gyntaf 1300: Daniel Evans, Darren Daniel, Nick Reynolds, Scott Williams, Joe Ajuwa, Owen Williams, Gareth Davies, Phil John (capt), Rhys Lawrence, Rhys Thomas, Adam Powell, Nathan White, Aaron Shingler, Nic Cudd, Damian Welch.
Eilyddion: Craig Hawkins, Sean Hopkins, Dean Howells, Duane Eager, Mat Gilbert, Martin Roberts, Jonny Lewis, Rheon James.
GWYBODAETH Y SCARLETS
Owen Williams, Maswr,
Dyddiad geni 27/02/92. Ganwyd yng Castell Nedd a magwyd yn Ystradgynlais, cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, chwaraeodd i'r Gweilch dan 16 ac 18 ac roedd yn rhan o Rygbi'r Gynghrair Cymru dwy dymor yn ol. Mae wedi chwarae 6 gwaith i Lanelli y tymor hwn ac mae wedi sgorio 29 o bwyntiau.
Nathan White, Ail Reng
Dyddiad geni 14/10/88 ganwyd ym Mhenybont a magwyd ym Maesteg, mae wedi chwarae i Benybont, Aberafan, Cymru dan 16, 18 a 20. Mae'n gweithio i'r cyngor.
Adam Powell, Ail Reng
Dyddiad geni 27/12/83 ganwyd yn Abertawe, magwyd yn Llanelli. Cafodd ei addysg yn Ysgol Y Strade ac fe ddechreuodd chwarae rygbi i Langennech. Mae'n athro Daearyddiaeth. Mae wedi chwarae 20 gem i Lanelli tymor hwn ac wedi sgori 5 pwynt.
Mathew Gilbert (Mat), Reng ol
Dyddiad geni 9/10/85 ganwyd yn Sidcup, Lloegr. Wedi chwarae i Glwb Rygbi Llanelli 18 o weithiau y tymor hwn ac wedi sgori 30 o bwyntiau.
Jonny Lewis, Cefnwr / asgellwr
Dyddiad Geni 02/06/88, ganwyd a'i fagwyd yn Abertawe, cafodd ei addysg yn Ysgol Gowerton ac mae wedi chwarae 19 o gemau i lanelli tymor hwn ac wedi sgori 20 o bwyntiau.
Shaun Hopkins, Prop.
Dyddiad geni 23/02/85 ganwyd a'i fagwyd yng Ngorseinon, cafodd ei addysg yn Ysgol Llangatwg, Castell Nedd. Mae wedi chwarae 7 gem i Lanelli tymor hwn ac wedi sgori 5 pwynt. Mae'n gweithio i'r busnes teuluol ac wedi bod gyda'r clwb ers tymor 2005/06.
Duane Eager, Blaenasgellwr
Dyddiad geni 17/02/88, ganwyd a'i fagwyd yn Abertawe. Cafodd ei addysg yn Cefn Hencoed. Mae'n drydanwr ac fe chwaraeodd 32 o weithiau i i Lanelli tymor diwethaf gan sgori 15 pwynt, mae wedi chwarae 17 o weithiau i Lanelli tymor hwn.
Craig Hawkins, Bachwr
Dyddiad geni 4/07/79, ganwyd a'i fagwyd yn Nhreforys, Abertawe. Cafodd ei addysg yn y Gwyr. Mae wedi chwarae i Abertawe, Penybont, Hope's Bay Seland Newydd a Llanelli. Mae'n hyfforddwr personol. Mae wedi chwarae 17 o weithiau i Lanelli y tymor hwn ac wedi sgori 25 o bwyntiau.
Rheon James, Canolwr
Mae'r canolwr Rheon James (18) o Gastell Newydd Emlyn ac fe ddechreuodd chwarae rygbi dros ei glwb lleol. Mae James wedi bod yn rhan o Academi'r Scarlets am ddwy flynedd ac fe oedd capten y tim dan 16 yn ystod tymor 2009-10. Mae ymhlith naw Scarlet sydd wedi eu henwi yng ngharfan dan 20 Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae James yna studio lefel A yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin, Caerfyrddin. Yn ogystal a chwarae i'r academi mae hefyd yn chwarae i Gwins Caerfyrddin.
Dean Howells, reng flaen
Ganwyd Howells (23) yn Gorseinon ac mae'n chwarae i glwb LLanymddyfri. Fe ddechreuodd chwarae rygbi yn 11 mlwydd oed i Glwb Rygbi Bonymaen cyn symud ymlaen at glwb Casllwchwr. Astudiodd Rheolaeth Chwaraeon yn UWIC gan chwarae i dim y Brifysgol am ddwy dymor. Mae'n byw yn Three Crosses, Abertawe, astudiodd yn Ysgol Bishopston Abertawe.











