Mae naw o chwaraewyr y Scarlets ar ddyletswydd rhyngwladol, mae grwp o chwaraewyr yr academia r ddyletswydd gyda Chymru dan 20 a dan 18, dau gyda tim saith bob ochr Cymru (Richie Pugh a Lees Rees) ac 16 arall yn absennol oherwydd anafiadau.
Fe frwydrodd y Scarlets yn erbyn tim y Dreigiau gyda ond pump chwaraewr proffesiynol ar y cae - roedd y lleill i gyd yn chwaraewyr rhanol-broffesiynol o Glwb Rygbi Llanelli a Chwins Caerfyrddin.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies: "Dy'n ni byth yn hapus ar ol colli ond fe welwyd perfformiad dewr ar y lefel hwn gan dim oedd ag ond pump chwaraewr proffesiynol. Fe wnaethon ni amddiffyn yn dda ar adegau ac fe lwyddom i ddominyddi meddiant yn yr hanner cyntaf.
"Roedd y bois yma ond wedi hyfforddi fel uned dros tair sesiwn wythnos diwethaf oherwydd anafiadau a dyletswyddau rhyngwladol ymysg ein carfan. Mae'n rhaid i ni dalu teyrnged iddyn nhw am y frwydr a welwyd, yn enwedig yn yr hanner cyntaf.
"Roedd y sgor yn gyfartal erbyn hanner amser gyda'r ddau dim ar 6 yr un, doedd y Dreigiau ddim yn disgwyl gweld y lefel yna o ddwysedd ac mae'n rhaid diolch i'r bois am yr ymdrech hwnnw.
"Fe ofynon ni iddyn nhw wisgo chrys y Scarlets gyda balchder a dyna a welwyd. Roedd pob eilydd yr un mor ddewr a phob chwaraewr arall ac ro'n i'n browd o'r ffordd wnaethon nhw gynrychioli'r Scarlets.
"Doedd dim diffyg ymdrech yn y perfformiad, ond unwaith eto ro'n ni ddim yn ddigon cywir. Roedd gan y Dreigiau brofiad ar y cae a dyna oedd y gwahaniaeth yn y pendraw.
"Roedd gwaith called yr hanner cyntaf yn dangos ar ein bois ni yn yr ail hanner ac fe gymrodd y Dreigiau y cyfleoedd.
"Fe wnaeth Rhys Lawrence yn dda, dangosodd Rhys Thomas yr awydd sydd ganddo i fod yn rhan o bopeth, roedd Aaron Shingler yn athletaidd ac yn effeithiol yn y lein ac fe ddangosodd Scott Williams unwaith eto ei fod yn chwaraewr cryf.
"Mae gennym lot i'w wneud yn y gemau nesaf yn y Cynghrair Magners a dyma bydd y ffocws i ni nawr. Ry'n ni'n gobeithio y bydd chwaraewyr ar gael i ni trwy'r cyfnod nesaf yma.
Ni fydd y Scarlets yn symud ymlaen i rownd nesaf y Cwpan LV= ar ol gorffen gyda naw pwynt yn grwp tri.Roedd Caerloyw ar frig y grwp gyda 16 pwynt.











