Yn ennill cap rhif 49, ac yn dechrau yn safle'r maswr, y mae'r Gweilch James Hook. Mae'n dechrau yn safle'r maswr am y tro cyntaf ers y fuddugoliaeth dros yr Eidal yn 2009, gyda Stephen Jones, ar y fainc. Mae Lee Byrne yn cymryd ei le fel cefnwr.
Mae dau o chwaraewyr y Scarlets ar y fainc, Josh Turnbull a Rhys Priestland, a all ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf - gyda Turnbull yn cymryd lle Ryan Jones sydd yn y tim ac yn ymuno a Jonathan Thomas a Richard Hibbard (Gweilch) a John Yapp (Gleision) yn y reng flaen.
Mae'r Scarlet ifanc Tavis Knoyle yn eilydd i safle'r mewnwr yn lle Dwayne Peel a gafodd anaf yn sesiwn hyfforddi dydd Llun.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Nigel Davies: "Rwy'n falch iawn dros Rhys a Josh, mae'[n wych i'w gweld nhw ar y fainc a'r cyfle i ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf. Mae'r ddau ohonynt wedi gweithio'n galed iawn dros y 18 mis diwethaf ac mae'n braf i weld bod yr ymdrech yma'n cael effaith, mae hefyd yn neis i weld Tavis yn ol yn y 22.
"Mae Steve (Jones), yn amlwg yn cario anaf o wythnos diwethaf ac ond wedi cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ysgafn; nid dyma'r tro cynta' iddo ddechrau ar y fainc i Gymru, mae'n chwaraewr arbennig i gael i ddod ymlaen yn hwyrach yn y gem ac fe fydd e'n gallu delio gyda'r sefyllfa."
CYMRU: Lee Byrne; Morgan Stoddart, Jamie Roberts, Jonathan Davies, Shane Williams; James Hook, Mike Phillips; Paul James, Matthew Rees (Capt), Craig Mitchell, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton, Ryan Jones
Eilyddion: Richard Hibbard, John Yapp, Jonathan Thomas, Josh Turnbull, Tavis Knoyle, Stephen Jones, Rhys Priestland











