Ar nos Fawrth 8fed Chwefror aeth Jonny Fa'amatuainu ac Emyr Phillips i gynorthwyo'r hyfforddwyr yng Nghlwb Rygbi'r Tymbl.
Dywedodd bachwr y Scarlets Emyr Phillips: "Mae'n wych i gael y cyfle i ddychwelyd i'r clybiau cymunedol. Rwy'n cofio dod i'r Tymbl fel chwaraewr ifanc gyda Llanymddyfri ac roedd e'n neis i eistedd yn y stafell newydd. Mae wedi dod no lag atgofion melys."
Ychwanegodd y chwaraewr rhyngwladol Jonny Fa'amatuainu: "Ar wahan i'r tywydd roedd yn brofiad gwych, roedd y plant wedi mwynhau hefyd o be weles i!"
Rhoddwyd posteri, cardiau chwaraewyr a Daioni i'r plant. Hoffai Swyddog Cymunedol y Scarlets ddiolch i Kevin Davies am drefnu'r noson.
Hoffai tim cymunedol y Scarlets ddiolch i Glwb Rygbi'r Tymbl am eu cefnogaeth dros y flwyddyn.











