Aeth chwaraewyr y Scarlets ati i egluro i'r chwaraewyr ifanc am bwysigrwydd bwyta'n iach fel chwaraewyr proffesiynol yn ogystal a dysgu sgiliau hanfodol rygbi iddynt.
Dywedodd y prop pentynn Simon Gardiner: "Roedd yn dda i ddod yn ol i'r gymuned a phasio ychydig o'r hyn yr wyf i wedi ei ddysgu hyd yn hyn. Does dim dwywaith y bydd rhai o'r chwaraewyr yma'n gwisgo crys y Scarlets cyn bo hir.
Rhoddwyd rhoddion i'r chwaraewyr ifanc gan gynnwys posteri a chardiau chwaraewyr. Hoffai Swyddog Cymunedol y Scarlets Chris Spriggs ddiolch i Paul Armstrong a thim ieuenctid Penygroes am y croeso ac am weithio mor galed.











