Roedd y saith Scarlet rhyngwladol ar y cae ar yr un pryd yn dilyn eilddyio cynnar Stephen Jones am James Hook a Tavis Knoyle am Mike Phillips.
Yn ei gwrthwynebu oedd wythfed chwaraewr rhyngwladol y Scarlets, yr asgellwr Sean Lamont a gafodd gem arbennig i'r Albanwyr ac a lwyddodd i arbed Jamie Roberts rhag croesi am gais.
Y nawfed chwaraewr rhyngwladol oedd y blaenasgellwr Rob McCusker a gafodd ei rhyddhau gan Gymru yn gynharach yn yr wythnos i wynebu Connacht.
Fe ddaeth Turnbull a Priestland ymlaen fel Scarlet rhif 201 a 202 y Scarlets yn hanes rhygwladol y clwb.
Priestland (80 o ymddangosiadau) yw prif sgoriwr y Scarlets eleni gyda 183 o bwyntiau o 20 gem ac mae'n ail yn nhabl prif sgorwyr y Cynghrair Magners. Mae Turnbull wedi gwneud 54 o ymddangosiadau i'r Scarlets ac wedi sgori deng pwynt hyd yn hyn.











