Hwn oedd buddugoliaeth cynta Cymru yn y bencampwriaeth ac fe sgoriwyd chwech cais. Aeth Cymru trwy'r cymalau ac roedd Owens yn amlwg o'r cychwyn cyntaf ynghyd a Ashley Rowlands a Shona Powell Hughes yn yr ail reng.
Daeth dwy gol gosb i Aimee Young yn y 12fed a'r 21ain. Sgoriwyd cais cyntaf Cymru tra bod Beth Dickens oddi ar y cae yn y gell gosb.
Yn fuan wedyn dangoswyd ail cerdyn melyn i'r Alban pan anfonwyd Louise Dalgliesh o'r cae am dor cyfraith.
Daeth trydydd cais Evans munudau cyn yr hanner wedi gwaith arbennig gan yr wythwr Rhian Bowden.
Ychwanegwyd ceisiau gan Charlie Murray a Caryl James cyn i'r Alban agor ei sgorfwrdd wrth i'r eilydd Tracey Balmer groesi'r gwyngalch.
Cymru: Ceisiau: Elen Evans (3), Charlie Murray, Caryl James, Kerin Kake; Trosiad: Aimee Young; Gol gosb: Aimee Young (3)
Yr Alban: Ceisiau: Tracey Balmer, Lindsay Wheeler; Trosiad: Caroline Collie











