"Wel", wedodd hi, "mae'n amlwg fod rhywun ar y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol yn darllen dy erthygle di yn rhaglen y Scarlets!" a dyma hi'n whifio papur newydd dan 'yn nhrwyn i. A jiawl ôdd hi'n iawn hefyd.
'Falle bod rhai ohonoch chi'n cofio yr erthygl ymddangosodd yn y rhaglen ar gyfer y gêm yn erbyn Caerl?r ym mis Ionawr eleni yn sôn am y cowdel sy'n digwydd yn ardal y sgrym y dyddie hyn - yr ergyd pan fydd y ddau bac yn rhwymo, cafflo gan y props, sgrymie'n cwmpo a'r bel yn mynd mewn yn gam. Wel, wir i chi, mae'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi gwrando. Ar eirie doeth eich colofnydd!
Ma' nhw wedi sylweddoli o'r diwedd bod probleme 'da'r sgrym. Yn ôl y Bwrdd ma' 60% o sgrymie'n mynd i'r llawr mewn gemau rhyngwladol y 6 Gwlad a'r Tri-Nations, a ma' angen ailosod 40%. A ma'r amser sy'n cael ei gymryd i gwblhau sgrym wedi cosi o 41 eiliad i 53 eiliad. Ma' nhw'n dweud wrtha i bod, ar gyfartaledd, 15 sgrym mewn gêm rhyngwladol (mae e'n teimlo fel lot mwy!) sy'n golygu bod yn agos i gwarter awr o bob gêm yn cael ei wastraffu i sorto'r sgrym mâs. Dim lot o hysbyseb ar gyfer rygbi deniadol, yw e?
Mae timau hyfforddi'r 6 Gwlad wedi cytuno cydweithio gyda'r Bwrdd i sicrhau bod y sgrym yn blatfform llonydd o hyn ymlaen. Biti na fydde hynny'n wir yn erbyn Caerl?r achos yn ôl y cyn-fachwr rhyngwladol, Brian Moore, a ddyle fod yn gwbod rhywbeth am gyfrinache'r rheng flaen fe adawodd dyfarnwr mor brofiadol â Alain Rolland i Martin Castrogiovanni beindo'n anghyfreithlon ar Iestyn Thomas trwy gydol y gêm.
A Haleliwia ma'r Bwrdd hefyd wedi dweud bod yn rhaid rhoi'r bel mewn i'r sgrym yn syth (nid yn gyflym o angenrhaid ond ddim yn gam). Mae'r hyfforddwyr rhyngwladol wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi dyfarnwyr sy'n dangos zero tolerance i'r tricie gan y ddwy reng flaen. Cawn weld.
Ond pam cyfyngu'r datblygiad hwn i gemau rhyngwladol yn unig? Ma digon o'i angen ar gannoedd o gaeau rygbi ar hyd a lled y wlad. Yn y cyfamser, wi'n mynd i feddwl pa agwedd arall o rygbi fydde'n i'n hoffi newid. Ma gair bach yn y golofn hon yn mynd yn bell bois!











