Mae'r Scarlets wedi bod yn llwyddiannus tra'n chwarae gartref eleni gyda wyth buddugoliaeth o 11 - ond maent yn paratoi i wynebu tim cryf Ulster a gollodd o bwynt yn unig yn erbyn y Gweilch penwythnos diwethaf.
Mae'r tim Gwyddelig yn y chweched safle yn y tabl ar 34 pwynt tra bod y Scarlets yn bedwerydd a 41 pwynt. Mae'r Scarlets wedi ennill tair o'r pedair gem diwethaf yn erbyn Ulster, nid yw Ulster wedi ennill yn Llanelli erioed.
Yn dychwelyd i dim y Scarlets y mae'r capiau newydd Rhys Priestland (maswr) a Josh Turnbull (reng ol) gyda Rob McCusker (reng ol) a Tavis Knoyle (mewnwr ar y fainc) yn cael eu rhyddhau gan Gymru hefyd. Mae'r Alban wedi rhyddhau Sean Lamont hefyd.
Scarlets i wynebu Ulster 18/02/11, Parc y Scarlets cic gyntaf 1905: Daniel Evans, Gareth Maule, Regan King, Scott Williams, Sean Lamont, Rhys Priestland, Martin Roberts, Iestyn Thomas (capt), Emyr Phillips, Rhys Thomas, Vernon Cooper, Lou Reed, Rob McCusker, Josh Turnbull, Ben Morgan.
Eilyddion: Rhys Lawrence, Rhodri Jones, Simon Gardiner, Jonny Fa'amatuainu, Johnathan Edwards, Tavis Knoyle, Dan Newton, Joe Ajuwa.
Dywedodd Nigel Davies, Prif Hyfforddwr y Scarlets: "Mae'r ysbryd ymysg y grwp wedi bod yn wych wythnos hon, mae wedi bod yn wythnos egniol iawn gyda'r chwaraewyr rhyngwladol yn ychwanegu at hynny.
"Mae'r chwaraewyr yn awyddus i adeiladu ar y gwaith da sydd wedi ei gyflawni'n barod y tymor hwn. Mae'n rhaid i ni ffocysu ar sicrhau canlyniadau yn y Cynghrair Magners ac fe fydd y bois sy'n dychwelyd o ddyletswydd rhyngwladol yn awyddus i ddangos yr hyn y maent yn gallu ei gynnig.
"Fe fydd Ulster hefyd yn targedu'r gem yma, mae pethau'n dynn iawn ar frig y tabl ac fe fydd Ulster yn awyddus i effeithio ar ein cyfleoedd.
"Mae'n rhaid i ni dargedu ein gemau cartref, ry'n ni wedi datgan hyn trwy'r tymor ac ry'n ni wedi gwella'n fawr ar hyn ers tymor diwethaf. Mae'r ddwy gem nesaf yn allweddol. Mae'n fis holl bwysig i ni ac wrth sicrhau canlyniadau da yn y tair rownd nesaf fe fyddwn ni mewn lle da ar gyfer y rowndiau ail gyfle."
"Ry'n ni wedi gweld ymdrech arbennig gan ein pac yn y gemau diwehaf, yn enwedig gan ystyried yr anafiadau ry'n ni wedi dioddef. Fe fydd y blaenwyr yn allweddol fory."











