Rhoddwyd posteri'r Scarlets, cardiau chwaraewyr ac aroglydd car i'r plant.
Dywedodd Emyr Harris, Hyfforddwr tim dan 8 yr Hendy: "Ry'n ni wedi bod i sawl gem ym Mharc y Scarlets ac ry'n ni wastad yn mwynhau. Mae Pentref y Cefnogwyr yn gyfleuster arbennig gyda lot o bethau i'r plant wneud.
Aeth Mr Harris ymlaen i ddweud: "Mae'r chwaraewyr wedi bod yn wych heno ac rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw am weddill y tymor."
Hoffai Swyddog Cymunedol y Scarlets Justin Lloyd ddiolch i Glwb Rygbi Yr Hendy am eu cefnogaeth trwy gydol y tymor.
Cysylltwch ag Adran Gymunedol y Scarlets ar 01554 783927 / 783934 neu ebostiwch community@scarlets.co.uk os hoffech i'r Scarlets ddod i'ch clwb chi.











