Oherwydd diffyg disgyblaeth yn yr ail hanner collwyd y gem a mynegwyd wrth y grwp y byddai'n rhaid iddyn nhw weithio'n galed wythnos hon - gyda'r ornest nesaf ond ychydig o ddiwrnodau i ffwrd, yn erbyn Caeredin nos Iau.
Gwelwyd perfformiad cyflawn arall gan y maswr Rhys Priestland, oedd wedi ei rhyddhau gan Gymru, wrth iddo gicio'n gywrain. Roedd yr awydd yn amlwg yn yr asgellwr Sean Lamont a'r canolwr Gareth Maule.
Edrychodd y cefnwyr yn beryglus gyda'r bel yn eu dwylo gan arddangos sgiliau da a digonedd o ymosodiadau egniol.
Ond camgymeriadau yn y lein oedd brif broblem y Scarlets yn ol y Prif Hyfforddwr.
Dywedodd Nigel Davies: "Ro'n i'n meddwl ein bod wedi gwneud digon gyda'r rhan helaeth o'r gem ond yn anffodus doedd y lein ddim hanner ddigon da. Ar adegau roedd yn draed moch. Mae'n rhwydd, os i chi eisiau ennill gemau mae'n rhaid gwneud y pethau sylfaenol yn iawn.
"Ni fydd yr ystadegau o'n llinellau'n dda o'r gem yma ac mae'n dweud y cyfan ein bod heb ennill y lein ddiwethaf.
"Fe fydd pobl yn siwr o grybwyll ciciau cosb ond nid ydym yn gallu rheoli hynny. Ry'n ni yn gallu rheoli'r symudiadau sylfaenol. Aeth popeth, bron, o'i le yn y lein ac nid oedd llwyfan gyda ni i ddatblygu ohono ar ddiwedd y gem.
"Ry'n ni gyd yn gwybod pa mor bwysig oedd y gem ond fe fydd yn rhaid i ni ail drefnu a pharatoi at y gem nesaf. Mae lot o siom a rhwystredigaeth yn ein plith ar hyn o bryd, ond fe fydd y bois yma dydd Sul yn hyfforddi a'r unig ffordd o ddelio gyda siom fel hyn yw i symud ymlaen a dechrau eto."
Dywedodd Davies bod gobeithion y Scarlets yn dal yn fyw o ran symud i'r rownd nesaf yn y Cynghrair Magners ond bod y golled yma'n mynd i effeithio ar yr ymgyrch.
Ychwanegodd Davies: "Mae cwpwl o berfformiadau cryf yn gallu gwneud byd o wahaniaeth yn y gynghrair ac mae pethau'n gallu newid yn gyflym - ry'n ni'n dal i fod yn hanner uchaf y tabl, mae hwn yn golled mawr i ni ac mae'n rhaid i ni dderbyn hynny ond mae'n rhaid i ni fwrw'n ol yn gyflym a gwneud gwahaniaeth gyda'n perfformiad ni nos Iau yn erbyn Caeredin.
"Mae lot o waith i'w wneud cyn hynyn, rwy'n grac bod ein gem wedi dymchwel mor gloi ar ddiwedd y gem."











