Dywedodd asgellwr y Scarlets: "Roedd yn wych i ddod i Landybie i roi syniad i'r chwaraewyr ifanc am ein sesiynau hyfforddi. Y peth pwysig yw bod pawb yn mwynhau chwarae rygbi ac yn gweithio ar y sgiliau sylfaenol."
Dywedodd Hywel Richards o Glwb Rygbi Llandybie: "Roedd yn bleser cael y Scarlets yma i rhannu eu profiadau i'r chwaraewyr ifanc. Roedd yn anffodus bod y tywydd wedi'n trechu ni ond rwy'n siwr bod Lee wedi mwynhau'r sesiwn holi hallt!"
Derbyniodd pob chwaraewr poster o dim y Scarlets ac ysgytlaeth Daioni.
Dywedodd Chris Spriggs, Swyddog Cymunedol y Scarlets: "Roedd yn wych i weld clwb mor llawn a phawb yn awyddus i gefnogi'r tim ieuenctid. Mae'n bleser i allu rhoi rhywbeth yn ol i'r clybiau sy'n dod i'n cefnogi ym Mharc y Scarlets."
Os hoffech weld y Scarlets yn eich clwb cysylltwch a'r Adran Gymunedol ar 01554 783927 / 783934 neu ebostiwch community@scarlets.co.uk.











