"Fel y rhanbarth a ddaeth a Gavin Quinnell yn ol i Gymru o'r Eidal haf diwethaf, roedd cefnogwyr a gweithwyr y Scarlets yn falch i'w weld yn dychwelyd i'w gynefin yn Llanelli a Sir Gar lle mae ei deulu wedi bod mor ddylanwadol dros y degawdau.
"Mae'n hynod o siomedig nad yw Gavin yn gallu parhau a'i yrfa fel chwaraewr rygbi proffesiynol yn dilyn anaf a arweiniodd at golli ei olwg mewn yn ei lygad chwith.
"Mae wedi dangos ysbryd, dewrder ac urddas trwy gydol hyn oll ac mae'n parhau i edrych yn bositif ar y cyfnod nesaf yn ei fywyd.
"Mae Gavin yn dal i dderbyn triniaeth gan arbenigwr llygaid yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd.
"Mae ffocws y teulu wedi bod ar Gavin trwy gydol y cyfnod a'i ddyfodol ef ac fe fydd rhanbarth y Scarlets yn parhau i'w gefnogi.
"Ry'n ni'n ymwybodol na fydd achos troseddol yn cael ei ddilyn yn dilyn anaf Gavin. Mae hwn yn benderfyniad i'r heddlu a theulu Quinnell ac nid yw rhanbarth y Scarlets yn dymuno gwneud datganiadau pellach am ganlyniad yr ymchwiliad."











