Eddie ôdd ar fai (fel arfer) a'i gwestiwn e oedd faint o efeilliaid fedren ni enwi sydd wedi whare rygbi rhyngwladol. Wi'n credu taw dyfais i ddangos i ni ei fod e wedi bod yn gwylio tipyn o Super 14 ar y bocs dros yr haf ôdd hwn achos fe neidiodd e mewn i ateb ei gwestiwn ei hunan yn syth - y brodyr Fainga'a o Awstralia, un yn fachwr a'r llall yn ganolwr, a'r ddau asgellwr o Dde Affrica Akona ac Odwa Ndungane.
Roedd pawb yn cytuno nad oes efeilliaid wedi whare i Gymru erioed, nag i Loegr chwaith. Fuodd 'na lot o bendroni am yr Iwerddon achos ma' nhw'n bobol ddigon od i fod wedi whare triplets ond methodd neb a meddwl am enwau.
O'r diwedd, fe gofiodd rhywun am Finlay a Jim Calder o'r Alban. Gan eu bod nhw'n efeilliaid, fe fyddech yn disgwyl iddyn nhw fod wedi whare gyda'i gilydd ond er bod gyda nhw 51 a gapie i'r Alban rhyngddyn nhw, wnaethon nhw ddim. Bu'r ddau yn Llew hefyd ond ar ddwy daith wahanol. 'Sen i'n meddwl bod hynna'n eitha' anghyffredin.
Ar ôl tipyn o grafu pen a mwy o olew ymennydd Double Dragon, fe ddaeth y seiat o hyd i rai enwau eraill. Dim bod y bois yn ofnadw o glyfar; jyst eu bod y rhan fwyaf ohonon ni o oedran vintage ac yn gallu cofio nôl i wythdegau'r ganrif ddiwethaf a chyn hynny. Dim problem, felly, i ddod o hyd i enwau'r efeilliaid enwocaf efallai sef Gary ac Alan Whetton a wharodd 34 gêm brawf gyda'i gilydd i Seland Newydd trwy gydol yr wythdegau.
Dau o'r un cyfnod hefyd oedd Mark a Glen Ella o Awstralia. I'r rhai fuodd yn ddigon ffodus i'w weld e yn y cnawd, Mark Ella oedd un o'r wharaewyr gorau welodd y byd ac mae'n drueni mawr iddo adael y llwyfan rhyngwladol yn 25 mlwydd oed yn unig.
Shwd gymerodd hi awr i gofio am Felipe a Manuel Contepomi, wn i ddim. Y Double Dragon yn dechrau cael effaith 'falle. Ôdd hi'n tynnu am stop tap erbyn i enwau'r Eidalwyr Marcello a Massimo Cuttita o'r 90au gael eu cynnig. Dyma i chi bâr anghyffredin o efeilliaid - y naill yn asgellwr a'r llall yn brop.
Os ôdd angen mwy o dystiolaeth bod Eddie wedi gwneud ei waith ymchwil ymlân llaw, fe gelon ni fe'n syth pan "gofiodd" e am Jim a Stewart Boyce, asgellwyr Awstralia yn y 60au, dechrau sôn am rhyw Argentinians ac Eidalwyr o'r 70au nad oedd neb yn eu cofio, dyna ddiwedd ar y trafod.
Tra bo' ni ar y pwnc, beth y'ch chi'n galw cefnogwr y Scarlets gyda dwy lygad? Efeilliaid, wrth gwrs!











