Mae cyfle i blant cael blas ar nifer o weithgareddau'r Gwersyll yn ogystal a dysgu sgiliau rygbi newydd, boed gwibio i lawr y llethr, rasio ar y cwads neu bwrw'r targed yn saethyddiaeth.
Wrth gwrs uchafbwynt i nifer fydd cael cyfle i gwrdd a rhai o chwaraewyr y Scarlets fydd yn ymweld a'r Gwersyll yn ystod y cwrs. Mae'r Scarlets hefyd yn rhoi tocyn am ddim i bob plentyn sy'n mynychu'r cwrs i ymweld a gem Scarlets v Caeredin, ac yn rhoi cyfle i rhieni archebu tocyn am hanner pris.
Mae Mark Jones, cyn asgellwr a Hyfforddwr Sgiliau y Scarlets yn dweud: "Mae'r Cwrs Sgiliau Rygbi a rhedir ar y cyd gyda'r Urdd yn gyfle ffantastig i bobol ifanc y rhanbarth i gymryd rhan mewn Rygbi. Mae'r cwrs, a rhedir gan ein Swyddog Datblygu Gymunedol yn ffordd grêt i blant i ddysgu sgiliau allweddol a gwaith tîm mewn awyrgylch hwyliog. Cael hwyl, a gwneud ffrindiau newydd yw'r ffocws, a dyma'r ffordd gorau o ddatblygu talent ifanc o fewn y rhanbarth ac wrth gwrs mae'n rhoi cyfle i chwaraewyr presennol y Scarlets i rhoi yn ôl i eu cymuned."
Rhedir y cwrs o 21ain i 23ain o Chwefror am £110. Croeso i chi gysylltu ar Gwersyll am fwy o wybodaeth.
**Yn Fuan - Yn Agor yn Mai 2011 fydd Canolfan Dringo a Chwrs Rhaffau Uchel Dan do Llangrannog











